Yn 2021, roedd bwlch cyflogaeth o 31% ar gyfer pobl anabl. Mae ffrind Anabledd Cymru, Ruth Nortey, yn mynd i’r afael â’r bwlch hwn yng Nghymru fel rhan o’i hymchwil ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd.
Yn y blog hwn, mae Ruth yn ein cyflwyno i’w hymchwil sydd â’r nod o fynd i’r afael â’r bwlch yn yr ymchwil gyfredol drwy dynnu sylw at achosion o arfer da sy’n cefnogi pobl anabl mewn cyflogaeth ac archwilio achosion strwythurol diweithdra anabledd.
Daliwch ati i ddarllen i ddarganfod mwy am yr ymchwil a chyfleoedd i gymryd rhan.
Pwy ydw i?
Helo, fy enw i yw Ruth Nortey. Rwy’n fam i un plentyn bach prysur, mae gen i nam golwg a byddwn yn disgrifio fy hun fel ymgyrchydd cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol.
Ar hyn o bryd rwy’n ymchwilydd ôl-raddedig ail flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd sy’n archwilio’r bwlch cyflogaeth anabledd yng Nghymru.
Mae fy mhrosiect ymchwil yn bartneriaeth rhwng Ysgol Busnes Caerdydd ac Anabledd Cymru, a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC).
Beth yw’r broblem?
Yn hanesyddol, mae’r gyfradd cyflogaeth ar gyfer pobl o oedran gweithio yng Nghymru yn is na’r gyfradd gyffredinol ar gyfer y DU. Mae pobl anabl oedran gweithio gweithio (16-64 oed) sy’n byw yng Nghymru yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith na phobl nad ydynt yn anabl.
Er gwaethaf llawer o raglenni’r llywodraeth i gael mwy o bobl anabl i mewn i waith, mae’r bwlch cyflogaeth anabledd – y gwahaniaeth yn y gyfradd cyflogaeth rhwng pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl o oedran gweithio, wedi aros yr un peth i raddau helaeth.
Mae fy mhrofiad personol o fod yn berson anabl yn y gweithle wedi rhoi cipolwg i mi ar y problemau y mae pobl anabl yn eu hwynebu ar hyn o bryd mewn cyflogaeth. Rwyf wedi sylwi bod profiadau a barn pobl anabl yn aml ar goll o drafodaethau ar sut i gael mwy o bobl anabl i mewn i waith.
Pam fod hyn yn broblem?
Mae pobl anabl yng Nghymru yn profi un o’r cyfraddau tlodi uchaf yn y DU a gwyddom fod diweithdra yn ffactor allweddol.
Nid yw gweithio yn opsiwn i bob person anabl ond rydym yn gwybod y gall gweithio fod yn bwysig gan ei fod yn darparu incwm annibynnol, mae’n rhoi ymdeimlad o bwrpas i ni, gall wella ein hiechyd meddwl a chynyddu hyder a hunan-barch.
Mae sgiliau pobl anabl yn cael eu colli i’r economi ac mae’n bwysig bod llunwyr polisi a chyflogwyr yn gweithredu nawr i sicrhau bod eu polisïau a’u gweithleoedd yn gynhwysol i bobl anabl.
Yn 2017, beirniadodd Pwyllgor Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl gyfradd cyflogaeth isel pobl anabl yn y DU a galwodd ar y DU a llywodraethau datganoledig i ddatblygu polisïau cyflogaeth effeithiol a fydd yn lleihau’r anghydraddoldebau y mae pobl anabl yn eu hwynebu mewn cyflogaeth. .
Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru yn cynllunio polisi anabledd newydd a fydd yn cynnwys polisïau i fynd i’r afael â’r bwlch cyflogaeth anabledd, wedi’i lywio gan brofiadau bywyd pobl anabl.
Pa ymchwil sydd ar waith i bobl anabl?
Er gwaethaf ffocws diweddar y llywodraeth ar gael mwy o bobl anabl i mewn i waith, ychydig o ymchwil a wnaed i’r mater o’r bwlch cyflogaeth anabledd, gan amlygu bwlch yn y llenyddiaeth gyfredol.
Lle mae ymchwil wedi ei gynnal, mae’n defnyddio ystadegau’n bennaf i egluro tueddiadau diweithdra ymhlith pobl anabl gan gynnig ychydig o fewnwelediad i sut y gellir mynd i’r afael â’r mater hwn.
Yn aml, mae lleisiau a phrofiadau bywyd pobl anabl ar goll o’r ymchwil. Mae argaeledd cyfyngedig ymchwil yn y maes hwn wedi golygu mai ychydig o dystiolaeth sydd ar hyn o bryd yn archwilio profiad pobl anabl o gyflogaeth.
Fel eiriolwr y Model Cymdeithasol o Anabledd, credaf fod pobl sy’n byw gyda namau a/neu gyflyrau iechyd, yn cael eu anablu gan rwystrau o fewn cymdeithas. Mae’r rhwystrau hyn yn atal pobl anabl rhag cael yr un cyfleoedd o fewn cymdeithas â phobl nad ydynt yn anabl.
O ran cyflogaeth, mae pobl anabl yn fwy tebygol o brofi rhwystrau ffisegol – adeiladau anhygyrch, rhwystrau o ran agwedd – camsyniadau cyflogwyr o ofynion mynediad pobl anabl a rhwystrau sefydliadol – prosesau ymgeisio anhygyrch.
Gall y rhwystrau hyn atal pobl anabl rhag ymgeisio am swyddi a llwyddo yn y gweithle.
Rwy’n ymwybodol bod llawer o bobl anabl yn cael profiadau cadarnhaol o gyflogaeth gyda chyflogwyr ledled y wlad yn creu gweithleoedd cynhwysol.
Fodd bynnag, prin yw’r ymchwil sy’n dangos yr enghreifftiau hyn o arfer gorau ar hyn o bryd. Pe bai’r enghreifftiau hyn o arferion cynhwysol yn cael eu rhannu’n eang, gallai sefydliadau eraill fabwysiadu’r arferion hyn, gan wneud eu gweithleoedd yn fwy cynhwysol i weithwyr anabl y presennol a’r dyfodol.
Y Prosiect Ymchwil
Bydd yr ymchwil hwn yn mynd i’r afael â’r bwlch yn yr ymchwil gyfredol drwy amlygu achosion o arfer da sy’n cefnogi pobl anabl mewn cyflogaeth ac archwilio achosion strwythurol diweithdra anabledd.
Bydd cam cyntaf yr ymchwil yn cynnwys cyfres o grwpiau ffocws ar-lein ym mis Ionawr a mis Chwefror 2023. Rwyf am wneud yn siŵr fy mod yn siarad â chymaint o bobl â phrofiad byw a/neu broffesiynol o gyflogaeth anabledd. Felly, hoffwn siarad â phobl 18 oed a hŷn o’r grwpiau canlynol:
- Pobl anabl
- Cynghorwyr cyflogaeth anabledd / hyfforddwyr swydd
- Sefydliadau trydydd sector sy’n cynnig cymorth cyflogaeth
- Cyflogwyr ag aelodau staff anabl
- Swyddogion Llywodraeth Cymru yn gwneud gwaith cyflogaeth anabledd
Bydd y grwpiau ffocws hyn yn gyfle i chi roi adborth i mi ar fy nghynlluniau ymchwil ac i mi ddeall beth yw eich blaenoriaethau mewn perthynas â chyflogaeth anabledd yng Nghymru.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn grŵp ffocws, os oes gennych unrhyw gwestiynau neu am ragor o wybodaeth gallwch gysylltu â mi, Ruth Nortey ar norteyr@cardiff.ac.uk.