Swydd wag: Swyddog Polisi ac Ymchwil

Rydym yn recriwtio. Swyddog Polisi ac Ymchwil. 21 awr yr wythnos. Gweithio o bell gyda swyddfa yn Sbarc, Caerdydd. Sbarduno newid effeithiol mewn polisi cyhoeddus a dylanwadu ar lunwyr polisi allweddol drwy ddatblygu safbwyntiau polisi cadarn sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Dyddiad cau: 12yh (hanner dydd) dydd Llun 21ain Hydref.

A oes gennych yr hyn sydd ei angen i fod yr aelod nesaf i dîm Anabledd Cymru? Rydym yn chwilio am berson anabl i gynrychioli AC fel Swyddog Polisi ac Ymchwil.

Bydd y swydd barhaol hon yn eich cyflwyno i dîm deinamig a chefnogol.

Rydyn ni’n griw bach ond nerthol, sy’n ymroddedig i ymdrechu dros hawliau a chydraddoldeb pob person anabl.

Teitl y swydd: Swyddog Polisi ac Ymchwil

Cyflog: Pwynt Graddfa’r NJC 23-25 £32,076 – £33,945 pro rata

Oriau: 21 awr yr wythnos

Man gwaith: Gweithio o bell gyda swyddfa yn Sbarc/Spark, Caerdydd

Yn atebol i: Rheolwr Datblygu Busnes a Phartneriaethau

Contract: Parhaol (yn amodol ar gyllid)

_________________________________________________________

Dyddiad cau: 12yh (hanner dydd) Dydd Llun 21ain o Hydref.

Cyfweliadau: Dydd Mercher 30ain Hydref.

Fel Swyddog Polisi ac Ymchwil, byddwch yn sbarduno newid effeithiol mewn polisi cyhoeddus ac yn dylanwadu ar lunwyr polisi allweddol drwy ddatblygu safbwyntiau polisi cadarn sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Bydd y swydd hon yn integreiddio’r safbwyntiau polisi hyn â gweithgareddau dylanwadu, ymgyrchu a chyfathrebu strategol i hyrwyddo cenhadaeth, nodau ac amcanion Anabledd Cymru.

Cyfrifoldebau allweddol:

  • Datblygu ac ymchwilio i bapurau polisi a chynhyrchu adroddiadau i lywio ymgyrchoedd Anabledd Cymru a safbwyntiau polisi
  • Casglu data, dylunio, dosbarthu a dadansoddi arolygon aelodau
  • Cymryd rhan mewn ymgynghoriadau ac ymchwiliadau seneddol a’r llywodraeth ac ymateb iddynt
  • Cynrychioli Anabledd Cymru ar grwpiau a rhwydweithiau rhanddeiliaid

Diddordeb? Mae’r cyfan sydd angen i chi ei wybod, gan gynnwys y disgrifiad swydd llawn a manyleb y person, i’w weld isod.

Fel arall, gallwch gysylltu â ni am becyn cais yn eich fformat dewisol.

Ffôn: 029 2088 7325

E-bost: membership@disabilitywales.org

Rhaid i ddeiliad y swydd fod yn berson anabl. Cwblhewch a dychwelwch eich ffurflen gais a monitro cydraddoldeb i membership@disabilitywales.org.

Os oes gennych chi’r sgiliau a’r diddordebau cywir, beth ydych chi’n aros amdano? Gwnewch gais heddiw!

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members