A ydych chi’n angerddol am hawliau a chydraddoldeb anabledd, a sbarduno cynrychiolaeth fwy amrywiol mewn gwleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus yng Nghymru? Gallai hon fod y rôl i chi!
Swydd: Cydlynydd Rhaglen
Cyflog: £30,000 – £33,000 FTE
Oriau: 18 awr, gyda gweithio hyblyg
Yn atebol i: Rheolwr Rhaglenni (WEN) ac uwch aelod o staff ym mhob sefydliad (mae hon yn rôl a reolir drwy fatrics)
Math o gontract: Cyfnod penodol hyd at fis Rhagfyr 2027
Dyddiad cau: 9yb dydd Mawrth 22 Ebrill.
Cyfweliad ar-lein: wythnos yn dechrau 21 Ebrill 2025.
Rhaid i ddeiliad y swydd fod yn berson anabl. Os nad ydych yn adnabod eich hun fel person anabl ond bod gennych ddiddordeb yn y swydd hon, cysylltwch â’n sefydliadau partner, EYST, Stonewall Cymru a WEN Cymru, sy’n hysbysebu swyddi eraill fel rhan o’r rhaglen.
YNGLŶN Â ‘PŴER CYFARTAL LLAIS CYFARTAL’
Mae’r rhaglen Pŵer Cyfartal, Llais Cyfartal (PCLlC) yn rhoi cyfleoedd mentora, hyfforddi a rhwydweithio gyda chymheiriaid i bobl o leiafrifoedd ethnig, pobl LHDTC+, pobl anabl, menywod a phobl sydd ag unrhyw gyfuniad o’r hunaniaethau hyn ledled Cymru. Mae hon yn rhaglen bwysig ac unigryw sy’n cael ei chyflwyno mewn partneriaeth gref a sefydledig gydag Anabledd Cymru, y Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig (EYST), Stonewall Cymru a Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod (WEN) Cymru.
Nod rhaglen PCLlC yw sicrhau cynrychiolaeth fwy amrywiol mewn gwleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus trwy gryfhau gwybodaeth a sgiliau’r rhai sy’n dyheu am fod yno, gan ddysgu a chael cefnogaeth gan y rheiny sydd wedi cyrraedd swyddi â phŵer, dylanwad ac awdurdod yn wyneb yr heriau hyn.
Byddwch yn adeiladu ar lwyddiant cylch y rhaglen PCLlC blaenorol, a gynhaliwyd rhwng 2021-2024. Bydd ymgeiswyr yn dangos brwdfrydedd ac arloesedd i sicrhau bod cylch nesaf rhaglen PCLlC (2025-2028) yn effeithlon ac yn effeithiol ac yn rhoi’r profiad gorau posibl i’r rhai sy’n cael eu mentora ac i’w mentoriaid, gan greu llwybr uniongyrchol tuag at sicrhau mwy o amrywiaeth mewn bywyd gwleidyddol a chyhoeddus yng Nghymru.
Mae’r rhaglen PCLlC yn bosibl trwy gyllid gan Lywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol.
Mae’r rôl hon yn rhan o ymdrech gydweithredol, gyda Chydlynwyr y Rhaglen wedi’u lleoli ym mhob un o’r sefydliadau partner.
YNGLŶN Â’R RÔL
Bydd Cydlynydd y Rhaglen yn gweithio ochr yn ochr â deiliaid swyddi tebyg yn EYST, Stonewall Cymru, a Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod (WEN) Cymru. bydd yn cefnogi Rheolwr Rhaglenni WEN i gyflwyno’r rhaglen Pŵer Cyfartal, Llais Cyfartal mewn partneriaeth. Byddwch yn arwain y gwaith o recriwtio a chefnogi’r garfan o tua 25 pâr o fentoriaid a rhai sy’n cael eu mentora o’ch sefydliad. Byddwch yn cefnogi’r Rheolwr Rhaglenni i gyflwyno’r holl ddigwyddiadau o fewn y rhaglen a byddwch yn mynd i ddigwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb ledled Cymru, a thua unwaith y flwyddyn yn Llundain.
Gyda hanes wedi’i brofi o gyflawni prosiectau, byddwch yn ddeinamig, trefnus, yn gyfathrebwr da ac yn gallu cysylltu â phobl i’w helpu i gyflawni eu nodau. Byddwch yn llawn cymhelliant, yn gallu gweithio ar eich liwt eich hun ac yn barod i ymuno â thîm sy’n perfformio ar lefel uchel ond hefyd yn hwyl ac yn gefnogol ac i gyd yn ymroddedig i weithio at gydraddoldeb.
Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan ymgeiswyr sydd â phrofiad bywyd o wahaniaethu croestoriadol.
Siaradwr Cymraeg: Dymunol
Hanfodol: Person anabl gyda phrofiad byw o rwystrau sy’n anablu
Diddordeb? Mae’r cyfan sydd angen i chi ei wybod, gan gynnwys y disgrifiad swydd llawn a manyleb y person i’w gweld isod.
Sut i wneud cais
Anfonwch eich CV, llythyr eglurhaol a ffurflen Cyfle Cyfartal i recruitment@wenwales.org.uk erbyn 9yb ddydd Mawrth 22 Ebrill 2025.
Nodwch yn eich cais eich bod yn ymgeisio am swydd Anabledd Cymru.