Gwasanaethau

Anabledd Cymru yw Arbenigwr Anabledd Cymru. Fel Sefydliad Pobl Anabl cenedlaethol a chyflogwr pobl anabl, mae gennym gyfoeth o arbenigedd mewn sut i gyrraedd ac ymgysylltu â phobl anabl yn ogystal â recriwtio pobl anabl a chreu gweithle cynhwysol.

Gallwn ddarparu gwasanaethau ymgynghori pwrpasol mewn perthynas â chydraddoldeb anabledd yn y meysydd canlynol:

  • Ymgysylltu ac Ymgynghori â Phobl Anabl
  • Datblygu a Chynllunio gwasanaethau
  • Polisïau Recriwtio a Dethol
  • Polisïau Cefnogi a Datblygu Staff
  • Creu gweithle cynhwysol a hygyrch

Mae gennym brofiad mewn:

  • Trefnu a chyflwyno grwpiau ffocws
  • Archwiliadau a Dadansoddiad Anghenion Hyfforddiant
  • Arolygon mynediad profiad byw
  • Cynhyrchu adroddiadau canfyddiadau gydag argymhellion

Ymhlith y sefydliadau rydym wedi gweithio gyda nhw yn ddiweddar mae:

  • Ymddiriedolaeth Genedlaethol
  • Llywodraeth Cymru
  • Cymorth i Ddioddefwyr
  • Gofal Cymdeithasol Cymru
  • Maint Cymru
  • Ymchwil Gofal Cymdeithasol Cymru

Cysylltwch ag Anabledd Cymru i archwilio sut y gallwn gefnogi gwaith eich sefydliad: info@disabilitywales.org

Hyfforddiant

Mae gan Anabledd Cymru dros 40 mlynedd o wybodaeth arbenigol am yr heriau a’r rhwystrau a wynebir gan bobl anabl ledled Cymru. Drwy gydol y cyfnod hwn, rydym wedi dylanwadu’n weithredol ar bolisïau ac arferion yn y sectorau Cyhoeddus, Preifat a’r Trydydd Sector, gan eiriol dros fwy o gydraddoldeb, hygyrchedd a chynhwysiant. Mae ein profiad helaeth wedi ein gosod fel arweinwyr yr ymddiriedir ynddynt wrth hyrwyddo hawliau pobl anabl.

Er bod gan ein sefydliad ddealltwriaeth ddofn o faterion anabledd ac yn hanesyddol wedi darparu mewnwelediadau gwerthfawr, nid ydym mewn sefyllfa ar hyn o bryd i gynnig hyfforddiant ffurfiol. Fodd bynnag, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i lunio cymdeithas gynhwysol drwy eiriolaeth, datblygu polisi, a chydweithio â rhanddeiliaid allweddol

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members