Gall sut mae pobl yn cael eu cynrychioli, eu disgrifio neu eu cyfeirio atynt gael cryn effaith ar sut mae nhw’n teimlo am eu hunain a sut mae’r cyhoedd, cyflogwyr a darparwyr gwasanaeth yn eu gweld.
Canllawiau iaith
Ni fydd pawb yn cytuno ar bopeth ond mae cytundeb cyffredinol ar rai canllawiau sylfaenol.
Person yn Gyntaf neu Hunaniaeth Iaith Gyntaf?
Defnyddir iaith person-cyntaf yn aml mewn lleoliadau proffesiynol. Mae’n golygu dweud “person ag anabledd,” yn hytrach na “pherson anabl.” Y meddwl yw, trwy roi’r person yn gyntaf, y bydd pobl yn canolbwyntio ar yr unigolyn yn hytrach na’u diffinio yn ôl eu hanabledd yn unig.
Fodd bynnag, mae’n well gan lawer o bobl anabl beidio â defnyddio iaith person yn gyntaf. Yn lle hynny, mae nhw’n dewis hunaniaeth-gyntaf e.e. person anabl.
Mae hyn yn pwysleisio sut mae pobl â namau yn anabl oherwydd rhwystrau mewn cymdeithas hynny ydy, dealltwriaeth Model Cymdeithasol o anabledd.
Mae hyn yn gosod y cyfrifoldeb ar gymdeithas i gael gwared ar rwystrau sy’n anablu, a bod yn gwbl gynhwysol o bobl â namau.
Ar ben hynny mae llawer yn gweld eu profiad byw o nam ac anabledd fel rhan o’u hunaniaeth a’r hyn sy’n eu gwneud nhw fel person. Mae mabwysiadu’r Model Cymdeithasol o Anabledd yn awgrymu mabwysiadu hunaniaeth iaith gyntaf e.e. ‘Person anabl’ yn hytrach na ‘pherson ag anabledd’.
Fodd bynnag, mae unigolion yn parhau i fod yn rhydd i wneud eu dewisiadau eu hunain o ran sut y maent yn dymuno cyfeirio atynt eu hunain.
Termau a labeli ar y cyd
Disgrifiad yw’r gair ‘anabl’ nid grŵp o bobl. Defnyddiwch ‘pobl anabl’ nid ‘yr anabl’ fel y term cyfunol.
Fodd bynnag, mae llawer o bobl Byddar, sydd yn defnyddio BSL fel iaith gyntaf, yn ystyried eu hunain yn rhan o ‘y gymuned Fyddar’ – gallant ddisgrifio eu hunain fel ‘Byddar’, gyda ‘B’ mawr, i bwysleisio eu hunaniaeth Byddar.
Osgoi labeli meddygol. Maent yn dweud ychydig am bobl fel unigolion ac maent yn tueddu i atgyfnerthu ystrydebau o bobl anabl yn ‘gleifion’ neu’n sâl.
Peidiwch â chyfeirio’n awtomatig at ‘bobl anabl’ ym mhob cyfathrebiad – nid yw llawer o bobl sydd angen budd-daliadau a gwasanaethau anabledd yn uniaethu â’r term hwn. Ystyriwch ddefnyddio ‘pobl â chyflyrau iechyd neu namau’ os yw’n ymddangos yn fwy priodol.
Cadarnhaol nid negyddol
Osgoi ymadroddion fel ‘yn dioddef o’ sy’n awgrymu poen cyson ac ymdeimlad o anobaith.
Mae cyfeirio at bobl anabl fel rhai ‘bregus’ yn awgrymu gwendid cynhenid a diymadferthedd. Gall hefyd arwain at wneud pobl yn fwy o darged ar gyfer trais domestig, aflonyddu sy’n gysylltiedig ag anabledd a throseddau casineb. Gall pobl anabl gael eu hunain mewn sefyllfaoedd bregus, yn aml oherwydd diffyg cefnogaeth ac arwahanrwydd cymdeithasol, a dylid fynd i’r afael â hyn.
Efallai na fydd defnyddwyr cadair olwyn yn ystyried eu hunain yn ‘gyfyngedig neu yn rhwym i’ gadair olwyn – ceisiwch feddwl amdano fel cymorth symudedd yn lle.
Ymadroddion bob dydd
Mae’r rhan fwyaf o bobl anabl yn gyfforddus â’r geiriau a ddefnyddir i ddisgrifio bywyd bob dydd. Efallai y bydd pobl sy’n defnyddio cadair olwyn yn ‘mynd am dro’ a phobl â nam ar eu golwg yn falch iawn – neu beidio – ‘i’ch gweld chi’. Gall nam olygu bod rhai pethau’n cael eu gwneud mewn ffordd wahanol. Dylid osgoi ymadroddion cyffredin a allai gysylltu namau â phethau negyddol, er enghraifft ‘byddar at ein pledion’, ‘troi llygad dall’.
Geiriau i’w defnyddio a’u hosgoi
Osgoi geiriau goddefol, dioddefwr. Defnyddiwch iaith sy’n parchu pobl anabl fel unigolion gweithredol sydd â rheolaeth dros eu bywydau eu hunain.
Osgoi | Defnyddiwch |
(Y) Dan Anfantais, (Yr) Anabl | (pobl) Anabl |
Dioddefwyr o | Sydd â (Enw’r cyflwr neu nam) |
Yn gyfyngedig i gadair olwyn | Defnyddiwr cadair olwyn |
O dan anfantais feddyliol | Unigolyn ag anhawster dysgu |
Cripl | Person anabl |
Spastig | Unigolyn â Cerebral Palsy |
Corff abl | Di-anabl |
Gwallgof | Person â chyflwr iechyd meddwl |
Byddar a bud | Byddar, Defnyddiwr (BSL), Person â nam clyw |
Y dall | Pobl â nam golwg, Pobl ddall, pobl rhannol ddall |
(Yr) Epeleptig, Diabetig ac yn y blaen | Person ag epilepsi, person â chlefyd y siwgr |
Corrach, ‘Midget’ | Rhywun a thyfiant cyfyngedig |
Ffitiau, ymosodiadau | ‘Seizures’ |
* Defnyddir y derm ‘pobl ag anabledd dysgu’ yn helaeth, gan gynnwys ymhlith grwpiau hunan-eiriolaeth. O safbwynt Model Cymdeithasol mae cyfateb anabledd â nam yn broblemus felly gall y rhai sy’n eirioli hunaniaeth iaith gyntaf gyfeirio at ‘bobl ag anawsterau dysgu’ neu ‘bobl â nam gwybyddol neu ddeallusol’.
Delweddu
Mae pobl anabl yn cynnwys 25% o boblogaeth Cymru ac wrth gyflwyno Cymru fel cenedl gynhwysol, maent yn defnyddio delweddau sy’n adlewyrchu ei chymunedau amrywiol, yn herio stereoteipiau ac yn helpu i chwalu rhwystrau.
Dylai’r delweddau a ddewisir gynrychioli:
- Defnyddiwch dôn llais naturiol. Peidiwch a nawddogi neu siarad i lawr
- Peidiwch ceisio siarad ar draws neu orffen brawddeg unigolyn
- Cyfeiriwch at bobl anabl fel rydych yn siarad a phawb arall
- Siaradwch yn uniongyrchol â pherson anabl hyn yn oed os oes ganddynt gyfaill neu gyfieithydd.
Introduction to Disability Terminology
http://www.disabilitywales.org/projects/embolden/ – Reporting on Disability for Journalists Guide