Heddiw yw Diwrnod Coffa’r Holocost, amser i nodi 78 mlynedd ers rhyddhau Auschwitz a chyfle i gofio am bawb a fu farw yn yr Holocost a hil-laddiadau eraill ledled y byd.
Roedd pobl anabl ymhlith y rhai gafodd eu targedu gyntaf gan y gyfundrefn Natsïaidd, gyda channoedd o filoedd yn destun sterileiddio gorfodol. Amcangyfrifir bod chwarter miliwn o bobl anabl wedi’u lladd yn y gwersylloedd T4.
Mae heddiw yn gyfle i gofio’r pobl hynny.
Trwy’r thema eleni – ‘Pobl gyffredin’, mae’r HMD Trust yn annog pawb i ystyried sut y gall pobl gyffredin, fel ni, efallai chwarae rhan fwy nag y gallem ei ddychmygu wrth herio rhagfarn a chasineb heddiw.
Mae’r HMD Trust yn gwahodd aelodau’r gymuned i oleuo canwyll yn eu ffenestri am 4yh heno, Ionawr 27, i:
- gofio y rhai a lofruddiwyd am bwy oeddynt
- sefyll yn erbyn rhagfarn a chasineb heddiw
Mae recordiad o Seremoni Genedlaethol flynyddol Cymru eleni i goffau Diwrnod Cofio’r Holocost hefyd ar gael ar-lein ar sianel YouTube Cyngor Caerdydd.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu mwy am yr Holocost, rydyn ni wedi creu rhestr o ddolenni ac adnoddau isod i sicrhau bod pobl anabl yn rhan o’r cofio ac arwyddocâd y diwrnod hwn.
Yn anffodus, nid yw’r gweithredoedd ofnadwy o erledigaeth a ysgogwyd gan wahaniaethu wedi’u cadw ar dudalennau hanes. Felly gadewch i ni gofio’r 250,000+ o bobl anabl a gafodd eu lladd, a sefyll gyda’n gilydd yn erbyn rhagfarn a chasineb heddiw.
Dolenni ac adnoddau
- Mae Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio’r Holocost wedi esbonio mwy am sut a pham wnaeth y gyfundrefn Natsiaidd dargedu pobl anabl
- Mae BBC Ouch wedi ateb y cwestiynau mwyaf cyffredin am yr Holocost a phobl anabl
- Mae’r fideo YouTube yma yn darparu mwy o wybodaeth am ‘Raglen T4’ y Natsiaid a laddodd miloedd o bobl anabl
- Mae gan yr HMD Trust hefyd ddetholiad o straeon hawdd i’w darllen, yn cynnwys stori Anne Frank.
- Roedd Anna Lehnkering yn un o’r bobl anabl cafodd ei lladd gan y gyfundrefn Natsiaidd, dyma ei stori.
- Cyhoeddodd BBC Newsround ac Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost ganllaw llawn gwybodaeth i’r Holocost ar gyfer cynulleidfaoedd iau.Mae’n manylu ar linell amser o ddigwyddiadau, yn esbonio geiriau anodd, a llawer mwy.
- Mae The Holocaust Explained yn wefan sydd wedi’i dylunio ar gyfer ysgolion. Mae’n llawn gwybodaeth am yr Holocost mewn amrywiaeth o fformatau cynnwys
Os ydych yn ymwybodol o unrhyw adnoddau hygyrch am yr Holocost, anfonwch nhw atom ni. Byddwn yn parhau i ddiweddaru’r dudalen hon gyda dolenni ac adnoddau defnyddiol.
Rhaid inni fyth anghofio.
Troseddau casineb
Ar Ddiwrnod Coffa’r Holocost, mae’n bwysicach nag erioed i sefyll yn erbyn rhagfarn a chasineb.
Gallwch riportio troseddau casineb, gan gynnwys troseddau casineb anabledd, i Gymorth i Ddioddefwyr neu’r heddlu.
Mae Adrodd Casineb Cymru, sy’n cael ei redeg gan Gymorth i Ddioddefwyr, yma i’ch cefnogi. Gallwch ddarganfod mwy ar eu gwefan.