I’w ryddhau ar unwaith
Ofn a dicter ledled Cymru wrth i Lywodraeth y DU dorri budd-daliadau anabledd yn ddidrugaredd, gan leihau cymorth ac amharu ar hawliau.
Wythnos ar ôl i Lywodraeth y DU gyhoeddi ei Phapur Gwyrdd Llwybrau i Waith: Diwygio Budd-daliadau a Chymorth i Gael Prydain yn Gweithio, cadarnhaodd y Canghellor yn ei Datganiad y Gwanwyn gynlluniau i dorri budd-daliadau anabledd mewn modd dinistriol.
Bydd y toriad o £5 biliwn yn arwain at lawer o bobl anabl yng Nghymru yn colli arian yn sylweddol, heb fynd i’r afael â’r rhwystrau systemig i gyflogaeth a byw’n annibynnol.
Mae rhagolygon yn dangos y gallai pobl anabl golli hyd at £4,500 y flwyddyn o dan y newidiadau arfaethedig hyn oherwydd toriadau i’w Taliadau Annibyniaeth Personol (PIP). Yn peri pryder mawr, gallai tua 375,000 o unigolion ledled y DU ddod yn anghymwys i gael PIP yn gyfan gwbl. Mae goblygiadau’r toriadau hyn yn peri pryder dwys i’r 25% o boblogaeth Cymru sy’n anabl.
I lawer o bobl, mae PIP yn ffynhonnell hanfodol o gymorth ariannol sy’n helpu i dalu costau hanfodol sy’n gysylltiedig ag anabledd, megis cymhorthion symudedd, gofal personol, trafnidiaeth a chyflenwadau hanfodol eraill. Mae’n galluogi pobl anabl i fyw bywydau annibynnol, cael mynediad at waith, cynnal eu hurddas a chymryd rhan mewn cymdeithas. Byddai lleihau PIP yn gostwng ansawdd bywyd yn sylweddol i nifer fawr o bobl anabl, gan greu rhagor o rwystrau i gynhwysiant ac annibyniaeth.
Mae’r Llywodraeth yn ceisio esgusodi ei genhadaeth i arbed arian gyda honiadau y bydd toriadau budd-daliadau yn sbardun i fwy o bobl gael gwaith – heb gydnabyddiaeth nac unrhyw gynllun clir i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau ehangach mewn cyflogaeth, byw’n annibynnol, addysg a thrafnidiaeth.
Bydd torri’r cymorth ariannol hanfodol hwn yn gwaethygu’r caledi sydd eisoes yn wynebu pobl anabl oherwydd 14 mlynedd o gyni, ac effaith pandemig Covid-19 a’r argyfwng costau byw.
Mae’n costio’n sylweddol fwy i bobl anabl fyw, ac nid yw lefel uchaf PIP – sy’n oddeutu £737 y mis ar hyn o bryd – yn ddigonol i dalu’r costau ychwanegol hyn yn aml. Y pryder yw y bydd tynnu’r llinell achub hon i ffwrdd yn gostwng safonau byw pobl anabl ac yn gwthio rhagor fyth i dlodi.
Mae pryderon hefyd ynghylch pobl ifanc anabl na fyddant yn gymwys ar gyfer elfen iechyd Credyd Cynhwysol tan eu bod yn 22 oed. Bydd hyn yn gadael llawer heb gymorth ariannol hanfodol ac yn gorfodi pobl i chwilio am waith mewn system anghyfartal ac anhygyrch.
Mae’r anghydraddoldebau systemig hyn wedi’u gwreiddio’n ddwfn yn y system budd-daliadau ei hun. Mae llawer o bobl anabl eisoes wedi colli eu bywydau oherwydd creulondeb y system bresennol, ac mae ofn eang y gallai newidiadau annheg pellach wthio mwy o bobl anabl, nid i gyflogaeth, ond i galedi enbyd.
Dywedodd Rhian Davies, Prif Weithredwr Anabledd Cymru:
“Mae’r budd-dal PIP yn enghraifft dda o ymagwedd flaengar at gydnabod a mynd i’r afael â’r costau ychwanegol a wynebir gan bobl anabl yn eu bywydau bob dydd ac yn fuddsoddiad mewn cymdeithas fwy cynhwysol. Yng Nghymru, drwy waith y Tasglu Hawliau Anabledd rydym wedi bod yn nodi ffyrdd eraill o fynd i’r afael â rhwystrau i eithrio, ond bydd cynlluniau creulon ac atchweliadol Llywodraeth y DU yn tanseilio hyn oll drwy gynyddu tlodi ac anghydraddoldeb.”
Cymru sydd â’r nifer uchaf o hawlwyr PIP, ac eto nid yw Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi adroddiad effaith i archwilio goblygiadau’r toriadau arfaethedig yma. Mae Anabledd Cymru felly’n galw ar Bwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd i lansio ymchwiliad er mwyn sicrhau na chaiff pobl anabl yng Nghymru eu hanghofio.
Mae PIP yn chwarae rôl hanfodol wrth gefnogi gallu pobl anabl i weithio. Mae torri’r cymorth hwn felly yn wrthgynhyrchiol ac yn tanseilio gallu pobl anabl i gymryd rhan yn y gymdeithas, gan gynnwys yn y gweithlu. Rhaid inni sicrhau bod y system les yn cefnogi pobl anabl, nid yn eu cosbi.
Yn aml, anwybyddir effaith penderfyniadau gwleidyddol ar bobl anabl – dyna pam mae angen rhagor o bobl anabl mewn safleoedd grym. Mae Anabledd Cymru yn galw ar bobl anabl yng Nghymru sydd â diddordeb mewn ymgysylltu â gwleidyddiaeth, gan gynnwys sefyll mewn etholiadau lleol a chenedlaethol yng Nghymru, i ymuno â’r Rhwydwaith Llawr Gwlad Mynediad at Wleidyddiaeth.
Mae’r toriadau hyn nid yn unig yn bygwth bywoliaeth pobl anabl ond hefyd yn peryglu erydiad pellach o hawliau a chydraddoldeb.
Yn wyneb y diwygiadau arfaethedig hyn, mae Anabledd Cymru a’n cynghreiriaid yn galw ar Lywodraeth y DU i ailystyried ei hagwedd. Rydym yn annog y rhai sy’n gwneud penderfyniadau i amddiffyn budd-daliadau anabledd er mwyn sicrhau y gall pobl anabl ledled Cymru barhau i fyw, gweithio a chyfrannu at gymdeithas heb ofni colli’r cymorth y maent yn dibynnu arno.
NODIADAU I OLYGYDDION
- Anabledd Cymru yw cymdeithas genedlaethol Mudiadau Pobl Anabl sy’n ymgyrchu dros hawliau a chydraddoldeb i bob person anabl.
- Am ymholiadau gan y cyfryngau, cysylltwch â: miranda.evans@disabilitywales.org
- Prin yn Goroesi (2023) yw adroddiad a gyhoeddwyd gan Anabledd Cymru i dynnu sylw at effaith yr argyfwng costau byw ar bobl anabl yng Nghymru.
- Mae’r Rhwydwaith Llawr Gwlad Mynediad at Wleidyddiaeth yn anelu at annog rhagor o bobl Fyddar ac anabl i ymgysylltu â gwleidyddiaeth, gan gynnwys sefyll mewn Etholiadau ar lefel leol a chenedlaethol yng Nghymru:
https://www.disabilitywales.org/projects/access-to-politics/
DATGANIAD O UNDOD
Mae’r sefydliadau canlynol eisoes wedi llofnodi’r datganiad hwn mewn undod:
Anabledd Cymru
Pawb yn Gyntaf Cymru Gyfan
Cyngor Deillion Cymru
Cyngor Pobl Fyddar Cymru
Anabledd Dysgu Cymru
Cymdeithas MS Cymru
Vision Support
Prosiect Grymuso Merched Awtistig
Awtistig y DU
Epilepsy Action Cymru
Fforwm Cymru Gyfan
Pobl Anabl yn erbyn Toriadau (Disabled People Against Cuts – DPAC)












I ychwanegu eich sefydliad a’ch logo at y datganiad, anfonwch e-bost at: miranda.evans@disabilitywales.org