Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth y DU eu cynlluniau i newid y system fudd-daliadau o dan gynllun Dychwelyd i’r Gwaith newydd, yna fe wnaethant ailddatgan eu hymrwymiad i’r newidiadau hyn yng Nghyllideb yr Hydref 2023.
Isod mae ein datganiad. Rydym yn sefyll yn gadarn yn erbyn y polisi hwn. Dyma un arall mewn llinell hir o bolisiau’r Llywodraeth sy’n targedu ac yn niweidio pobl anabl yn uniongyrchol.
Rydym yn deall y pryder a’r straen y mae’r cynigion hyn yn eu creu ac yn sefyll mewn undod â phawb yr effeithir arnynt. Rydym yn gweithio gyda sefydliadau pobl anabl ledled y DU i wrthsefyll y cynigion hyn. O etifeddiaeth dywyll Caledi i’r datgeliadau echrydus o’r Ymchwiliad COVID-19, rydym yn sefyll yn gadarn yn erbyn y newidiadau hyn ac yn parhau i wthio am system fudd-daliadau, wedi’i dylunio gyda ac ar gyfer pobl anabl.
Ein datganiad
Bydd y newidiadau arfaethedig i’r system fudd-daliadau a gyhoeddwyd gan Ganghellor y Trysorlys yn cael effaith ddinistriol ar bobl anabl.
Gallai’r newidiadau a gynigir i Asesiadau Gallu i Weithio weld pobl anabl yn colli £4,680 mewn incwm gyda phobl anabl dan fygythiad o gael gwared ar hawliau allweddol fel cymorth cyfreithiol.
Nid yw’r gallu i weithio gartref, sy’n gwbl ddibynnol ar gyflogwyr unigol, yn cyfiawnhau’r niwed y gallai hyn ei wneud i bobl anabl. Dylai ffocws y Llywodraeth fod ar sicrhau bod cyflogwyr yn cyflawni eu dyletswyddau o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb drwy ddarparu gweithleoedd cynhwysol a gwneud addasiadau rhesymol i gefnogi gweithwyr anabl.
Mae Llywodraeth y DU hon wedi dangos dro ar ôl tro elyniaeth weithredol tuag at hawliau pobl anabl. Rydym yn sefyll mewn undod â phobl anabl yng Nghymru a ledled y DU ac yn annog y Llywodraeth i ddileu’r cynnig hwn.