Mae AC yn croesawu Adroddiad Pwyllgor Cydraddoldeb y Senedd ar y Bwlch Cyflogaeth Anabledd yng Nghymru sydd yn 31% ar hyn o bryd. Rydym yn cytuno â chanfyddiad y Pwyllgor bod ‘gormod o bobl anabl yn wynebu rhwystrau diangen i gyflogaeth yng Nghymru heddiw’ a bod cynnydd o ran mynd i’r afael â’r rhain yn ‘rhy araf’.
Rhoddodd AC dystiolaeth i’r Pwyllgor ac rydym yn llwyr gefnogi ei alwad i Lywodraeth Cymru:
- Cyhoeddi ei Gynllun Gweithredu Hawliau Anabledd cyn gynted â phosibl
- Cyflawni ei hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl (CCUHPA) yng nghyfraith Cymru
- Ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gyfrannu’n fwy sylweddol i daclo’r bwlch cyflogaeth anabledd
- Ceisio diwygio Cynllun Hyderus o ran Anabledd yr Adran Gwaith a Phensiynau
- Codi pryderon am weithrediad gwael cynllun Mynediad i Waith yr Adran Gwaith a Phensiynau
Lawrlwythwch yr adroddiad isod.