Cyhoeddiad rhanddeiliaid Anabledd Cymru

Mae Anabledd Cymru yn cynnal rhaglen o newidiadau a fydd yn ailgynllunio ac yn ailddatblygu’r sefydliad i sicrhau ein bod yn addas i’r diben yn y dyfodol.

Mae Anabledd Cymru, ynghyd â mudiadau gwirfoddol eraill, yn gweithio mewn byd sy’n newid yn gyflym. Mae hyn yn heriol ac mae angen i ni ymateb yn gadarnhaol. Felly, rydym wedi bod yn gweld beth yw ein strwythur a sut rydym yn gweithio i sicrhau ein bod yn parhau i symud ymlaen tuag at sicrhau hawliau a chydraddoldeb i bobl anabl yng Nghymru, a’n bod yn y sefyllfa orau i gefnogi ein haelodau gan gynnwys Sefydliadau Pobl Anabl.

Mae tri phrif reswm pam mae Anabledd Cymru yn ymgymryd â’r rhaglen hon o newidiadau:

Manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i hyrwyddo hawliau a chydraddoldeb anabledd

Mae Anabledd Cymru yn ailedrych ar ei gynllun strategol i ystyried cyfleoedd newydd, gan gynnwys canlyniadau gwaith y Tasglu Hawliau Anabledd sydd gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r cynllun gweithredu arfaethedig yn cynnig cyfle gwych i ganolbwyntio o’r newydd ar fynd i’r afael â rhwystrau sy’n anablu mewn cymdeithas.

Fel aelod blaenllaw o’r Tasglu, mae gan Anabledd Cymru ran hanfodol i’w chwarae o ran datblygu partneriaethau newydd gydag amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys aelodau Anabledd Cymru, sydd â’r nod o sicrhau hawliau a chydraddoldeb i bobl anabl.

Effaith yr argyfwng costau byw

Mae’r argyfwng costau byw wedi effeithio’n sylweddol ar y cyllid sydd ar gael i sefydliadau’r trydydd sector. Fel llawer, mae Anabledd Cymru wedi gweld gostyngiad sylweddol yn ei gyllid gan Lywodraeth Cymru yn ogystal â mwy o gystadleuaeth am grantiau gan ymddiriedolaethau elusennol a sefydliadau.

Rhaid i ni addasu i’r newid hwn o ran y cyllido wrth i ni symud oddi wrth gyllid Llywodraeth Cymru ac archwilio ffyrdd newydd a mwy amrywiol o sicrhau cynaliadwyedd Anabledd Cymru, gan gynnwys ar y cyd ag eraill.

Ffyrdd newydd o weithio

Rydym ni wrthi’n cyflwyno arferion gweithio digidol, hyblyg a hybrid newydd ac mae angen i ni barhau â’r datblygiadau hyn i sicrhau ein bod ni’n gweithredu yn y ffordd fwyaf effeithiol.

Beth mae hyn yn ei olygu i wasanaethau Anabledd Cymru i aelodau a rhanddeiliaid?

Mae pwrpas a nodau strategol Anabledd Cymru yn aros yr un fath.

Rydym wedi bod yn gwrando’n ofalus ar farn a blaenoriaethau’r holl Sefydliadau Pobl Anabl sy’n aelodau llawn, a chyn bo hir byddwn yn cynnal arolwg o’r aelodaeth ehangach.

Bydd y newidiadau rydym yn eu gwneud yn cael eu cynllunio i’n helpu i wneud popeth o fewn ein gallu i ddiwallu anghenion ein haelodau dros y blynyddoedd nesaf.

Bydd ein rhaglen newid yn cael ei chynnal dros y misoedd nesaf wedi i ni sefydlu strwythur newydd dros yr Haf.

Yn anffodus, mae’r gostyngiad mewn cyllid wedi golygu llai o gapasiti staff, a fydd yn cael effaith ar yr amrywiaeth o weithgareddau y gallwn eu cynnig yn y tymor byr. Fodd bynnag, byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid i ddatblygu cynlluniau newydd a fydd o fudd i bobl anabl yng Nghymru.

Mae ein tîm bychan ond ymroddedig o staff yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr, ac mae eu cyflawniadau’n mynd ymhell y tu hwnt i’r hyn y gellir ei ddisgwyl gan gyn lleied ohonynt. Mae Anabledd Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb yn cymryd rhan lawn, yn ymgynghori â nhw ac yn cael eu cefnogi wrth i ni wneud y newidiadau angenrheidiol.

Dyma’n hymrwymiadau ar gyfer y rhaglen newid hon:

· Adeiladu sefydliad cadarn a chynaliadwy sy’n canolbwyntio ar y dyfodol i hyrwyddo hawliau anabledd a chydraddoldeb yng Nghymru

· Ailstrwythuro’r sefydliad i gyflawni ein strategaeth newydd yn effeithiol ac yn effeithlon

· Cynnwys aelodau, gweithio’n gynhyrchiol, a defnyddio tystiolaeth a data i fesur a gwneud y gorau o’n heffaith

· Sefydlu a meithrin partneriaethau gyda sefydliadau rhanddeiliaid eraill, i wella rhaglenni Anabledd Cymru a chyfleoedd i ddylanwadu

· Trin pawb â thegwch, tosturi ac urddas

Y Camau Nesaf

Bydd Cyfarwyddwyr a Staff Anabledd Cymru yn cymryd rhan mewn adolygiad cynllunio strategol dros yr Hydref.

Bydd arolwg yn cael ei ddosbarthu i’r holl aelodau gan ofyn am sylwadau ac adborth ar waith a gweithgareddau Anabledd Cymru a fydd yn sail i’r adolygiad cynllunio strategol.

Bydd cyfarfodydd yn cael eu trefnu gyda rhanddeiliaid gan gynnwys partneriaid a sefydliadau sy’n aelodau, er mwyn llywio’r adolygiad cynllunio strategol a chanfod cyfleoedd ar gyfer cydweithio.

Gwyddom fod unrhyw broses newid yn creu ansicrwydd a byddwn yn ymdrechu i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi. Rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth yn fawr, bob amser. Nid oes gennym unrhyw amheuaeth y bydd hyn yn parhau drwy’r cyfnod heriol hwn.

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members