Pa gefnogaeth Costau Byw sydd ar gael?
Mae’r argyfwng costau byw yn cael effaith anghymesur ar bobl anabl. Rydym wedi cynhyrchu’r dudalen hon i ddarparu gwybodaeth a dolenni defnyddiol i gymorth pellach.
Cymorth gyda’ch biliau ynni
- Mae Ofgem yn darparu cymorth ac arweiniad gyda’ch biliau ynni a’ch cyflenwr.
- Lleihau eich biliau – cynlluniau a grantiau | Ofgem
- Dod o Hyd i’ch Awdurdod Lleol: Gwefan yw hon sy’n eich galluogi i ddod o hyd i ba awdurdod lleol yr ydych yn byw ynddo. Y cyfan sydd ei angen arnoch yw eich côd post neu i ddewis eich awdurdod lleol o restr.
- Arbenigwr Arbed Arian – Awgrymiadau ynni i wrthweithio costau cynyddol biliau nwy a thrydan
Cefnogaeth arall sydd ar gael
- Banciau bwyd
Mae banciau bwyd yn sefydliadau cymunedol a all helpu os na allwch fforddio’r bwyd sydd ei angen arnoch.
Gallwch ddod o hyd i’ch banc bwyd lleol trwy deipio’ch côd post i mewn i chwiliad a ddarparwyd gan The Trussell Trust yma.
- Banciau cynnes
Mae banc cynnes, neu ofod cynnes, yn lle diogel gyda gwres. Maent yn ymroddedig i helpu’r rhai na allant fforddio rhoi eu gwres ymlaen gartref i gadw’n gynnes y gaeaf hwn. Dyma fap rhithwir a ddarperir gan Warm Welcome lle gallwch ddod o hyd i fanciau cynnes yn eich ardal
Iechyd meddwl
Mae’r argyfwng costau byw eisoes yn cael effaith enfawr ar iechyd meddwl.
Mae elusen iechyd meddwl, Mind, yn darparu gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael i chi yma.
Gweminarau a Thaflenni Ffeithiau
- Gweminarau: Os hoffech fynychu un o’n gweminarau ar wahanol feysydd yr effeithir arnynt gan yr argyfwng costau byw, megis banciau cynnes a’ch hawliau yn y gweithle, gallwch gofrestru i fynychu un. Ymwelwch a’n tudalen Eventbrite i weld beth sydd i ddod.
- Ffeithlenni: Mae Anabledd Cymru wedi cynhyrchu rhai taflenni ffeithiau gyda gwybodaeth allweddol am ble i gael cymorth yn ystod yr argyfwng costau byw. Gallwch ddod o hyd i’r taflenni ffeithiau a gynhyrchwyd yma.
- Pecyn Gwybod Eich Hawliau: Cynhyrchwyd y pecyn Gwybod Eich Hawliau gan Anabledd Cymru cyn yr argyfwng costau byw, ond mae’n dal i gynnwys gwybodaeth werthfawr am eich hawliau fel person anabl.
- Awdurdodau Lleol Mae Anabledd Cymru wedi cynhyrchu taflenni ffeithiau i’ch helpu i gysylltu â’ch awdurdod lleol. Bydd gan bob awdurdod lleol wybodaeth benodol ar gyfer eich ardal a pha gymorth y maent yn ei ddarparu.
Ymchwil
Rydym yn cynnal ymchwil i ddangos i Lywodraeth Cymru yr hyn y mae pobl anabl sy’n byw yng Nghymru wedi’i brofi yn ystod yr argyfwng costau byw.
Yma fe welwch ffyrdd o ymgysylltu â’r ymchwil a’r deunyddiau a grëwyd yn gysylltiedig â’r ymchwil yr ydym yn ei wneud.
- Arolwg: Dyma ddolen i’n harolwg ar brofiadau pobl anabl yn ystod yr argyfwng costau byw. Gallwch ddod o hyd i’r arolwg hwn yn Saesneg, testun plaen Saesneg, Cymraeg, testun plaen Cymraeg a Saesneg Hawdd ei Ddarllen.
Dolenni i Gymorth a Gwybodaeth bellach
Mae yna lawer o wefannau a sefydliadau sy’n darparu gwybodaeth am faterion costau byw gan gynnwys: ôl-ddyledion rhent, dyled a gamblo, benthyca arian, pensiynau a mwy.
- Cyngor ar Bopeth: Mae gan Cyngor ar Bopeth wybodaeth gyffredinol am amrywiaeth eang o bynciau yn ymwneud ag effaith yr argyfwng costau byw.
- Cael Help gyda Chostau Byw (Llywodraeth Cymru). Mae hon yn ffynhonnell wybodaeth a ddarperir gan Lywodraeth Cymru ar gymorth costau byw sydd ar gael yng Nghymru.
- Cymorth i Aelwydydd: Mae hon yn ffynhonnell wybodaeth ar gyfer y DU gyfan am y cymorth sydd ar gael i’ch helpu gyda chostau byw, a ddarperir gan Lywodraeth y DU.
- Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynhyrchu tudalen we ddefnyddiol am Sut i gadw’n iach yn ystod yr argyfwng costau byw. Mae’n cynnwys rhestr o sefydliadau a gwasanaethau a all roi cymorth gydag arian, bwyta’n iach, cymorth iechyd meddwl a llesiant a chamau pwysig y gallwch eu cymryd i ofalu am eich iechyd.
- Arbenigwr Arbed Arian: Mae hon yn ffynhonnell wybodaeth am ffyrdd o arbed arian, sy’n ymroddedig i dorri eich biliau ac ymladd eich cornel gydag ymchwil newyddiadurol, offer blaengar a chymuned enfawr – i gyd yn canolbwyntio ar ddod o hyd i fargeinion, arbed arian parod ac ymgyrchu dros gyfiawnder ariannol.
- Turn2Us: Mae hon yn ffynhonnell wybodaeth anabledd benodol am y cymorth sydd ar gael ar gyfer yr argyfwng costau byw, sy’n cwmpasu’r DU gyfan.