Customize Consent Preferences

We use cookies to help you navigate efficiently and perform certain functions. You will find detailed information about all cookies under each consent category below.

The cookies that are categorized as "Necessary" are stored on your browser as they are essential for enabling the basic functionalities of the site. ... 

Always Active

Necessary cookies are required to enable the basic features of this site, such as providing secure log-in or adjusting your consent preferences. These cookies do not store any personally identifiable data.

No cookies to display.

Functional cookies help perform certain functionalities like sharing the content of the website on social media platforms, collecting feedback, and other third-party features.

No cookies to display.

Analytical cookies are used to understand how visitors interact with the website. These cookies help provide information on metrics such as the number of visitors, bounce rate, traffic source, etc.

No cookies to display.

Performance cookies are used to understand and analyze the key performance indexes of the website which helps in delivering a better user experience for the visitors.

No cookies to display.

Advertisement cookies are used to provide visitors with customized advertisements based on the pages you visited previously and to analyze the effectiveness of the ad campaigns.

No cookies to display.

Costau Byw

Pa gefnogaeth Costau Byw sydd ar gael?

Mae’r argyfwng costau byw yn cael effaith anghymesur ar bobl anabl. Rydym wedi cynhyrchu’r dudalen hon i ddarparu gwybodaeth a dolenni defnyddiol i gymorth pellach.

Cymorth gyda’ch biliau ynni

Cefnogaeth arall sydd ar gael

  • Banciau bwyd

Mae banciau bwyd yn sefydliadau cymunedol a all helpu os na allwch fforddio’r bwyd sydd ei angen arnoch.

Gallwch ddod o hyd i’ch banc bwyd lleol trwy deipio’ch côd post i mewn i chwiliad a ddarparwyd gan The Trussell Trust yma.

  • Banciau cynnes

Mae banc cynnes, neu ofod cynnes, yn lle diogel gyda gwres. Maent yn ymroddedig i helpu’r rhai na allant fforddio rhoi eu gwres ymlaen gartref i gadw’n gynnes y gaeaf hwn. Dyma fap rhithwir a ddarperir gan Warm Welcome lle gallwch ddod o hyd i fanciau cynnes yn eich ardal

Iechyd meddwl

Mae’r argyfwng costau byw eisoes yn cael effaith enfawr ar iechyd meddwl.

Mae elusen iechyd meddwl, Mind, yn darparu gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael i chi yma.

Gweminarau a Thaflenni Ffeithiau

  • Gweminarau: Os hoffech fynychu un o’n gweminarau ar wahanol feysydd yr effeithir arnynt gan yr argyfwng costau byw, megis banciau cynnes a’ch hawliau yn y gweithle, gallwch gofrestru i fynychu un. Ymwelwch a’n tudalen Eventbrite i weld beth sydd i ddod.
  • Ffeithlenni: Mae Anabledd Cymru wedi cynhyrchu rhai taflenni ffeithiau gyda gwybodaeth allweddol am ble i gael cymorth yn ystod yr argyfwng costau byw. Gallwch ddod o hyd i’r taflenni ffeithiau a gynhyrchwyd yma.
  • Pecyn Gwybod Eich Hawliau: Cynhyrchwyd y pecyn Gwybod Eich Hawliau gan Anabledd Cymru cyn yr argyfwng costau byw, ond mae’n dal i gynnwys gwybodaeth werthfawr am eich hawliau fel person anabl.
  • Awdurdodau Lleol Mae Anabledd Cymru wedi cynhyrchu taflenni ffeithiau i’ch helpu i gysylltu â’ch awdurdod lleol. Bydd gan bob awdurdod lleol wybodaeth benodol ar gyfer eich ardal a pha gymorth y maent yn ei ddarparu.

Ymchwil

Rydym yn cynnal ymchwil i ddangos i Lywodraeth Cymru yr hyn y mae pobl anabl sy’n byw yng Nghymru wedi’i brofi yn ystod yr argyfwng costau byw.

Yma fe welwch ffyrdd o ymgysylltu â’r ymchwil a’r deunyddiau a grëwyd yn gysylltiedig â’r ymchwil yr ydym yn ei wneud.

Dolenni i Gymorth a Gwybodaeth bellach

Mae yna lawer o wefannau a sefydliadau sy’n darparu gwybodaeth am faterion costau byw gan gynnwys: ôl-ddyledion rhent, dyled a gamblo, benthyca arian, pensiynau a mwy.

  • Cyngor ar Bopeth: Mae gan Cyngor ar Bopeth wybodaeth gyffredinol am amrywiaeth eang o bynciau yn ymwneud ag effaith yr argyfwng costau byw.
  • Cael Help gyda Chostau Byw (Llywodraeth Cymru). Mae hon yn ffynhonnell wybodaeth a ddarperir gan Lywodraeth Cymru ar gymorth costau byw sydd ar gael yng Nghymru.
  • Cymorth i Aelwydydd: Mae hon yn ffynhonnell wybodaeth ar gyfer y DU gyfan am y cymorth sydd ar gael i’ch helpu gyda chostau byw, a ddarperir gan Lywodraeth y DU.
  • Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynhyrchu tudalen we ddefnyddiol am Sut i gadw’n iach yn ystod yr argyfwng costau byw. Mae’n cynnwys rhestr o sefydliadau a gwasanaethau a all roi cymorth gydag arian, bwyta’n iach, cymorth iechyd meddwl a llesiant a chamau pwysig y gallwch eu cymryd i ofalu am eich iechyd.
  • Arbenigwr Arbed Arian: Mae hon yn ffynhonnell wybodaeth am ffyrdd o arbed arian, sy’n ymroddedig i dorri eich biliau ac ymladd eich cornel gydag ymchwil newyddiadurol, offer blaengar a chymuned enfawr – i gyd yn canolbwyntio ar ddod o hyd i fargeinion, arbed arian parod ac ymgyrchu dros gyfiawnder ariannol.
  • Turn2Us: Mae hon yn ffynhonnell wybodaeth anabledd benodol am y cymorth sydd ar gael ar gyfer yr argyfwng costau byw, sy’n cwmpasu’r DU gyfan.

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members