Cefnogwch Ni

Ymunwch â ni i wneud Cymru yn wlad lle gall pawb ffynnu. Gallwch gefnogi ein brwydr dros hawliau, cydraddoldeb a chynhwysiant pobl anabl drwy roi rhodd, codi arian, gadael etifeddiaeth ac, yn bwysicaf oll, drwy gofrestru i ddod yn aelod o Anabledd Cymru.

Darllenwch ymlaen i ddarganfod mwy am bwy ydym ni a sut y gall eich cefnogaeth ein helpu i greu cymdeithas ddi-rwystr i bobl anabl.

Pwy ydym ni

Sbarduno Cydraddoldeb, Cynhwysiant a Hawliau i Bawb Anabl

Anabledd Cymru (AC) yw’r gymdeithas genedlaethol o Sefydliadau Pobl Anabl (SPA) sy’n ymdrechu i gyflawni hawliau a chydraddoldeb pob person anabl. Ein rôl graidd yw cynrychioli barn a blaenoriaethau ein haelodau i’r llywodraeth gyda’r nod o lywio a dylanwadu ar bolisi ac arfer.

Wedi’i seilio ar y Model Cymdeithasol o Anabledd, rydym yn gweithio i chwalu rhwystrau cymdeithasol—boed yn agweddol, yn amgylcheddol neu’n sefydliadol—sy’n atal pobl â namau rhag cymryd rhan lawn mewn bywyd.

Ers dros 50 mlynedd, rydym wedi bod yn lais blaenllaw dros newid, gan eiriol dros gydraddoldeb, hawliau dynol, a chymdeithas gwbl gynhwysol lle mae gan bob person anabl y cymorth sydd ei angen arnynt i ffynnu.

Ein Gwerthoedd Craidd: Sylfaen Ein Gwaith

Wrth wraidd popeth a wnawn mae ein gwerthoedd craidd, sy’n arwain ein cenhadaeth ac yn llywio’r effaith a gawn ar fywydau pobl anabl.

Y Model Cymdeithasol o Anabledd

Credwn fod pobl â namau yn cael eu hanablu gan y rhwystrau mewn cymdeithas, nid gan eu hamodau. Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar hyrwyddo’r Model Cymdeithasol o Anabledd, sy’n herio agweddau negyddol ac yn galw am newidiadau yn yr amgylchedd a systemau sy’n cyfyngu ar hawliau pobl anabl.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Hawliau Dynol

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu cydraddoldeb, amrywiaeth a hawliau dynol pob person anabl. Mae Anabledd Cymru yn eiriol dros gymdeithas gynhwysol lle mae pawb, waeth beth fo’u nam, yn cael y cyfle i fyw bywyd heb wahaniaethu a rhagfarn. Rydym yn gweithio i sicrhau bod polisïau ac arferion yn cynnal yr hawliau hyn i bawb.

Cymdeithas Gynhwysol

Ein gweledigaeth yw cymdeithas gwbl gynhwysol, lle gall pobl anabl gymryd rhan ym mhob agwedd o fywyd ar delerau cyfartal. Credwn fod pob person yn haeddu’r gefnogaeth angenrheidiol, addasiadau, a mynediad i fyw’n annibynnol, dilyn addysg, cyflogaeth, ac ymgysylltu â’u cymuned.

Hunanbenderfyniad

Rydym yn parchu ac yn gwerthfawrogi’r potensial ar gyfer hunanbenderfyniad o fewn pob unigolyn. Mae Anabledd Cymru yn cefnogi pobl i eiriol dros eu hawliau eu hunain, eu grymuso i wneud penderfyniadau am eu bywydau, a meithrin annibyniaeth.

Yn Ffagl o Arfer Gorau

Fel ffagl o arfer gorau, mae Anabledd Cymru yn arwain drwy esiampl, gan weithio i sicrhau’r ansawdd uchaf ym mhopeth a wnawn. O lunio polisi i rymuso unigolion, rydym yn cael ein cydnabod fel ffynhonnell ddibynadwy o arbenigedd ar hawliau anabledd a chynhwysiant.

Ymrwymiad i Ansawdd

Mae ein hymrwymiad i ansawdd yn ganolog i’n cenhadaeth. P’un a yw’n gefnogaeth a ddarparwn i unigolion neu’r dylanwad a gawn ar bolisi, rydym yn ymroddedig i gyflawni rhagoriaeth wrth gyflawni ein gwaith, gan sicrhau bod ein heffaith yn ystyrlon ac yn barhaol.

Ein heffaith

Herio Rhwystrau, Newid Bywydau 

Diolch i’ch cefnogaeth, gall Anabledd Cymru gael effaith ddofn ar fywydau pobl anabl ledled Cymru. Dyma rai o’r ffyrdd yr ydym yn ysgogi newid:

  • Eiriol dros y Model Cymdeithasol o Anabledd: Rydym yn gweithio i sicrhau bod llunwyr polisi, sefydliadau, a’r cyhoedd ehangach yn deall ac yn mabwysiadu’r Model Cymdeithasol o Anabledd. Mae hyn yn golygu gwthio am amgylcheddau hygyrch, herio agweddau negyddol, a sicrhau bod sefydliadau yn cymryd cyfrifoldeb am greu cymdeithas gynhwysol. Mae ein Pecyn Cymorth Model Cymdeithasol o Anabledd wrth galon y gwaith hwn ac mae’n ddeunydd darllen hanfodol i unrhyw un sydd am ddysgu mwy am hawliau a chydraddoldeb anabledd a sut i fynd i’r afael â rhwystrau sy’n anablu.
  • Hyrwyddo Cydraddoldeb a Hawliau Dynol: Trwy ein heiriolaeth a’n hymgyrchoedd, rydym yn hyrwyddo hawliau dynol pobl anabl yn weithredol ac yn herio gwahaniaethu lle bynnag y mae’n codi. Rydym yn hyrwyddo amrywiaeth o bob math, gan sicrhau bod pobl anabl o bob cymuned a chefndir yn cael eu cefnogi a’u clywed. Yn aml nid yw pobl anabl yn cael gwybod am eu hawliau a beth ydyn nhw ac rydym am newid hynny – felly dyma ein pecyn Gwybod Eich Hawliau sy’n anelu i roi gwybodaeth hanfodol i bobl anabl a’u sefydliadau i sicrhau y gallant ddefnyddio a byw eu hawliau.
  • Meithrin Cymdeithas Gynhwysol: Rydym yn gweithio gyda’r llywodraeth, busnesau a chymunedau i adeiladu cymdeithas fwy cynhwysol lle gall pobl anabl gael mynediad at yr adnoddau, y gwasanaethau a’r cyfleoedd sydd eu hangen arnynt i gyfranogi’n llawn. O drafnidiaeth hygyrch i weithleoedd cynhwysol, rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd sy’n cefnogi pawb. Gwelodd ein prosiect Hawliau Yma, Hawliau Nawr ni’n darparu’r adnoddau i leoliadau addysg yng Nghymru i addysgu pob dysgwr yn effeithiol am Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl (CCUHPA) i sicrhau bod plant a phobl ifanc anabl yn teimlo eu bod wedi’u grymuso a bod eu cyfoedion yn dod yn gynghreiriaid.
  • Grymuso Hunan Benderfyniad: Mae ein rhaglenni a’n mentrau wedi’u cynllunio i rymuso pobl anabl i gymryd rheolaeth o’u bywydau. Trwy hyfforddiant, cefnogaeth eiriolaeth, a chodi ymwybyddiaeth o hawliau, rydyn ni’n rhoi’r hyder a’r offer i bobl sefyll dros eu hunain. Mae rhai enghreifftiau o’n prosiectau yn cynnwys; y rhaglen fentora traws-gydraddoldeb arloesol, Pŵer Cyfartal, Llais Cyfartal, gyda’r nod o gael cynrychiolaeth fwy amrywiol mewn gwleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus. Yn yr un modd, mae ein Rhwydwaith Llawr Gwlad Mynediad at Wleidyddiaeth sydd newydd ei sefydlu, a fydd yn hyrwyddo’r gwaith hanfodol a wneir yng Nghronfa Mynediad at Swyddi Etholedig Cymru a’i nod yw cael mwy o bobl Fyddar ac anabl i ymddiddori a chymryd rhan mewn gwleidyddiaeth, gan gynnwys sefyll am Swyddi Etholedig ar lefel genedlaethol a lleol yng Nghymru.
  • Pennu Safonau Arfer Gorau: Mae Anabledd Cymru wedi ymrwymo i arddangos a hyrwyddo arferion gorau ym maes hawliau anabledd. Rydym yn cynghori sefydliadau ar hygyrchedd, a datblygu polisi, gan osod esiampl i eraill ei dilyn.
  • Darparu Cefnogaeth o Safon: Mae popeth a wnawn yn cael ei yrru gan ein hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau a chefnogaeth o safon. O ddylanwadu ar bolisi i gefnogi Sefydliadau Pobl Anabl (SPA), rydym yn sicrhau bod ein gwaith yn creu newid gwirioneddol, cadarnhaol i bobl anabl.

Pam fod eich cefnogaeth yn bwysig

Mae pobl anabl yn parhau i wynebu rhwystrau sylweddol sy’n eu hatal rhag cymryd rhan lawn mewn cymdeithas. Gyda’n gilydd, gallwn newid hynny.

Drwy gefnogi Anabledd Cymru, rydych yn cyfrannu at ddyfodol lle mae pob person, waeth beth fo’i nam, yn cael y cyfle i fyw’n rhydd a chydag urddas.

Mae eich rhoddion yn ein galluogi i:

  • Hyrwyddo’r Model Cymdeithasol o Anabledd a herio rhwystrau cymdeithasol
  • Amddiffyn hawliau dynol pobl anabl ac eiriol dros gynhwysiant llawn.
  • Grymuso unigolion i gymryd rheolaeth o’u bywydau a sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed.
  • Dylanwadu ar lywodraeth a pholisi i greu cymdeithas decach a mwy hygyrch.

Deallwn nad yw pawb mewn sefyllfa i roi’n ariannol, ac rydym yn gwerthfawrogi hynny’n fawr.

Mae eich cefnogaeth fel aelod neu fel eiriolwr dros ein hachos yr un mor werthfawr.

Drwy ddod yn aelod o Anabledd Cymru, rydych yn ymuno â chymuned o unigolion sy’n sefyll dros gydraddoldeb, cynhwysiant a hawliau dynol. P’un a ydych chi’n codi ymwybyddiaeth, yn cymryd rhan mewn eiriolaeth, neu’n cymryd rhan yn ein digwyddiadau, mae eich cefnogaeth yn ein helpu i gyflawni ein cenhadaeth a chael effaith barhaol.

Ymunwch â ni i wneud Cymru yn wlad lle gall pawb ffynnu. Boed trwy roddion neu aelodaeth, mae pob gweithred o gefnogaeth yn ein symud yn nes at gymdeithas gynhwysol, seiliedig ar hawliau i bob person anabl.

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members