Mae adroddiad wedi’i ryddhau heddiw ar weithredu hawliau anabledd yng Nghymru. Ysgrifennwyd yr adroddiad, a gynhaliwyd gan Anabledd Cymru, i lywio adolygiad Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl i weithrediad Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl yn y DU. Dywedodd pobl anabl o bob rhan o Gymru wrth Anabledd Cymru, er […]
Category: Uncategorized @cy
![A black and white photo of Simon Green holding a sign that says Don't disable our future](https://www.disabilitywales.org/wp-content/uploads/2017/10/simon-green-e1511189494883.jpg)
Teyrnged i’r ymgyrchydd hawliau anabledd, Simon Green
Rydym wedi ein syfrdanu gan golled Simon Green, yr ymgyrchydd hawliau anabledd a oedd yn aelod hir-amser o’n Bwrdd Cyfarwyddwyr yn Anabledd Cymru. Roedd effaith Simon yn enfawr, ac fel Cadeirydd Clymblaid Pobl Anabl Pen-y-bont ar Ogwr fe ymgyrchodd yn ddiflino am well mynediad a chefnogaeth o ran gwasanaethau lleol yn ogystal ag eiriol dros […]
![Llun o pob un o'r hyrwyddwyr cyflogaeth pobl anabl uwchben ysgrifen du ar gefndir gwyn sy'n dweud Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl](https://www.disabilitywales.org/wp-content/uploads/2022/03/Copy-of-Copy-of-Copy-of-How-to-make-your-inforamtion-accessible-to-our-member.png)
Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl
Gadewch i ni siarad am gyflogaeth pobl anabl. Yn draddodiadol, mae cyfraddau cyflogaeth yn sylweddol is ar gyfer pobl anabl na phobl nad ydynt yn anabl. Mae ffigurau hyd at fis Mawrth 2020 yn dangos bod y gyfradd cyflogaeth ar gyfer pobl anabl 16 i 64 oed yng Nghymru yn 50%, o gymharu ag 81% […]
![Logo 50 mlwyddiant AC uwchben ysgrifen coch ar gefndir golau sy'n dweud: Arwyddo addewid Amser i Newid. Mae ysgrifen du oddi tano sy'n dweud, Newid y ffordd rydym yn meddwl a gweithredu o amgylch iechyd meddwl yn y gwaith.](https://www.disabilitywales.org/wp-content/uploads/2022/02/A1E4AA28-AD85-4B1A-9403-6620E533A1FA_1_201_a.jpeg)
Arwyddo addewid Amser i Newid
Ddydd Llun 7 Chwefror 2022, roeddem yn falch o lofnodi addewid cyflogwr Amser i Newid i newid y ffordd yr ydym yn meddwl ac yn gweithredu o amgylch iechyd meddwl yn y gwaith. Drwy lofnodi’r addewid, rydym yn ymuno â channoedd o sefydliadau i herio stigma iechyd meddwl. Llofnodwyd yr addewid mewn digwyddiad mewnol lle […]
![Testun gwyn ar gefndir brown sy'n dweud: Rydym yn nodi Diwrnod Cofio'r Holocost. #DiwrnodCofiorHolocost / 27 Ionawr. Mae llun o gannwyll wedi'i chynnau wrth ymyl y testun](https://www.disabilitywales.org/wp-content/uploads/2022/01/Welsh-HMD-graphic_Twitter2.jpg)
Diwrnod Coffa’r Holocost 2022
Heddiw yw Diwrnod Coffa’r Holocost, diwrnod i nodi 77 mlynedd ers rhyddhau Auschwitz a chyfle i gofio am bawb a fu farw yn yr Holocost a hil-laddiadau eraill ledled y byd. Roedd pobl anabl ymhlith y rhai gafodd eu targedu gyntaf gan y gyfundrefn Natsïaidd, gyda channoedd o filoedd yn destun sterileiddio gorfodol. Amcangyfrifir bod […]
![Logo Anabledd Cymru ar gefndir gwyrddlas. Mae ysgrifen du oddi tano sy'n dweud Blwyddyn dan sylw, adroddiad y Prif Weithredwraig](https://www.disabilitywales.org/wp-content/uploads/2021/11/Blwyddyn-dan-sylw.png)
Anabledd Cymru: Blwyddyn dan sylw
Pan ddigwyddodd y cyfnod clo cyntaf ym mis Mawrth 2020, arafodd y byd; tawel oedd strydoedd a swyddfeydd a seibiwyd cyfleoedd i gymdeithasu mewn person. Ond wrth i Anabledd Cymru symud i weithio ar-lein ac wrth i’n tîm bach ehangu, gan recriwtio pobl o bob rhan o Gymru, aeth ein gwaith o nerth i nerth. […]
![Ysgrifen du ar gefndir gwyn o dan logo Anabledd Cymru. Mae'r ysgrifen yn dweud: Dweud eich dweud, adolygiad Anabledd Cymru i mewn i'r UNCRDP a hawliau anabledd yng Nghymru](https://www.disabilitywales.org/wp-content/uploads/2021/11/Dweud-eich-Dweud-adolygiad-UNCRDP.png)
Dweud eich dweud: Adolygiad AC o’r UNCRDP a hawliau anabledd yng Nghymru
Annwyl Aelodau, Rydym yn cynnal adolygiad i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl (UNCRDP) a hawliau anabledd yng Nghymru. Mae’n bwysig i ni ein bod yn clywed gan gynifer o bobl anabl â phosibl ar gyfer hyn felly rydym yn cynnal arolwg i bobl rannu eu profiadau a sicrhau bod lleisiau pobl anabl […]
![Disability Wales logo](https://www.disabilitywales.org/wp-content/uploads/2021/04/Disability-Wales.jpg)
Datganiad i’r Wasg: Lansiad Cronfa ar gyfer Ymgeiswyr Anabl yn Etholiadau Cynghorau Lleol 2022
Mae Anabledd Cymru yn croesawu’r datganiad heddiw gan Rebecca Evans, gweinidog cyllid a llywodraeth leol, yn agor ail gymal Cronfa Mynediad i Swyddi Etholedig Cymru. Yn awr bydd y Gronfa’n agored i bobl anabl sydd am ymgeisio i fod yn gynghorwyr lleol yn etholiadau Llywodraeth Leol 2022. Bydd yn agored i rai sydd am gynnig […]
![Disability Wales logo](https://www.disabilitywales.org/wp-content/uploads/2021/04/Disability-Wales.jpg)
Galwad am dystiolaeth: Adolygu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl yng Nghymru
Mae Anabledd Cymru yn adolygu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl yng Nghymru (UNCRDP) ac rydym yn chwilio am dystiolaeth am yr UNCRDP a hawliau anabledd yng Nghymru. Beth yw’r UNCRDP? Mae CRDP yn gytundeb hawliau dynol rhyngwladol a fabwysiadwyd yn 2006. Cadarnhaodd y DU (cytuno i ddilyn) CRDP yn 2009. Gallwch ddysgu […]
![#UnlockedLives logo in black against a bright yellow background. The logo shows a white cartoon of a video camera set in a black circle with the project title in black writing underneath](https://www.disabilitywales.org/wp-content/uploads/2021/09/802753B6-E1FF-4049-9F0E-86EF99DB91D2_1_201_a.jpeg)
Datgloi Bywydau – y ffilm
Datganiad i’r Wasg Anabledd Cymru i lansio ‘Datgloi Bywyday’, ffilm sy’n cyfleu profiadau pobl anabl trwy wahanol donnau’r pandemig Datgloi Bywydau yw’r prosiect fideo Anabledd Cymru a wnaed yn bosibl diolch i gyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol Cymru. Yn darlledu am y tro cyntaf mewn digwyddiad ar-lein ddydd Gwener 17eg o Fedi am […]