Ar ran Bwrdd Anabledd Cymru, mae’n bleser gennyf rannu ein Hadroddiad Blynyddol ar gyfer 2022-23, a gymeradwywyd yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol diweddar. Yng ngeiriau ein Cadeirydd Willow Holloway, ‘Mae wedi bod yn flwyddyn hynod gynhyrchiol arall i Anabledd Cymru. Rydym wedi parhau i gynrychioli ein haelodau yn ystod y cyfnod heriol hwn tra’n cynyddu […]
Author: Elin Williams
Gwybodaeth bwysig am Gynhadledd Flynyddol Anabledd Cymru 2023
Mae’r diwrnod mawr bron yma! Ar ôl misoedd o gynllunio, rydym yn edrych ymlaen at weld gwesteion, siaradwyr a stondinwyr i gyd yn dod at ei gilydd ddydd Mawrth 17 Hydref wrth i ni dynnu sylw at bobl anabl yn y cyfryngau. Mae’r diwrnod yn mynd i fod yn un prysur gyda phrif areithiau, trafodaeth […]
Niwroamrywiaeth a’r Model Cymdeithasol o Anabledd
Y Model Cymdeithasol o Anabledd yw un o’n prif werthoedd yma yn Anabledd Cymru. Rydym yn gweithio’n ddiflino i hyrwyddo dealltwriaeth, mabwysiadu a gweithredu’r Model Cymdeithasol ledled Cymru. Gwyddom y bydd perthynas pawb â’r Model Cymdeithasol yn wahanol a chredwn ei bod yn bwysig amlygu profiadau’r rhai sydd wedi ac sydd dal i weithio i […]
Datganiad i’r wasg: Adroddiad yn canfod achosion cynyddol o dorri hawliau pobl anabl
Mae Sefydliadau Pobl Fyddar a Phobl Anabl y DU wedi lansio adroddiad deifiol heddiw sy’n gwerthuso perfformiad y llywodraeth saith mlynedd ar ôl canfyddiad y Cenhedloedd Unedig o droseddau difrifol a systematig yn erbyn hawliau pobl anabl oherwydd llymder a diwygio lles. Dywedodd Kamran Mallick, Prif Weithredwr Disability Rights UK, “Mae’r dystiolaeth yn glir, mae’r […]
Datganiad i’r wasg: Llywodraeth y DU yn cuddio rhag y Cenhedloedd Unedig ynghylch triniaeth o bobl anabl
I’W RYDDHAU AR UNWAITH Mae sefydliadau anabledd wedi beirniadu penderfyniad y llywodraeth i beidio â rhoi tystiolaeth i ymchwiliad gan y Cenhedloedd Unedig fel un sy’n dangos dirmyg tuag at bobl anabl. Mae sesiwn dystiolaeth yr ymchwiliad, a gynhelir yn Geneva ar 28 Awst, yn rhan o ddilyniant i’r ymchwiliad arbennig a gynhaliwyd gan bwyllgor […]
Herio Ystradebau, Newid Cymdeithas: Pobl Anabl a’r Cyfryngau
Daliwch y dudalen flaen! Mae Cynhadledd Flynyddol a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol Anabledd Cymru yn dod i Gaerdydd ddydd Mawrth 17 Hydref 2023. Ymunwch â ni yng Nghlwb Criced Sir Forgannwg ac ar-lein wrth i ni ystyried cynrychiolaeth a phortread pobl anabl yn y cyfryngau. Dros y blynyddoedd, anaml y mae straeon newyddion ac erthyglau yn […]
Lansio adroddiad – ‘Prin yn Goroesi’: Effaith yr Argyfwng Costau Byw ar Bobl Anabl yng Nghymru
Heddiw, ar 10 Gorffennaf 2023, mae Anabledd Cymru yn lansio ei adroddiad ‘Prin Goroesi’: Effaith yr Argyfwng Costau Byw ar Bobl Anabl yng Nghymru. Mae’r adroddiad hwn wedi’i gyflwyno er cof am y bobl anabl sydd wedi colli eu bywydau yn ystod yr argyfwng costau byw. Mae wedi bod yn anodd dianc rhag yr argyfwng […]
Press Release: Disabled People’s Organisations demand full disclosure in COVID Inquiry
PRESS RELEASE 6 JUNE 2023 DISABLED PEOPLE’S ORGANISATIONS DEMAND FULL DISCLOSURE IN COVID INQUIRY At a preliminary hearing of Module 2 of the Covid Inquiry on 6 June 2023 four national Disabled People’s Organisations (DPOs): Disability Action Northern Ireland, Disability Rights UK, Disability Wales and Inclusion Scotland have argued for full disclosure of Government Whatsapps and […]
Gweithio fel intern yn Anabledd Cymru: Profiad Rosie
Dros y blynyddoedd, rydym wedi croesawu nifer o interniaid i ymuno â thîm AC i roi cyfle iddynt ddysgu mwy am yr hyn rydym yn ei wneud a chael profiad ymarferol ym mhob agwedd o’n sefydliad. Ein recriwt diweddaraf oedd Rosie, myfyriwr blwyddyn olaf ym Mhrifysgol Caerdydd. A ninnau newydd symud i’n cartref newydd yng […]
Datganiad i’r Wasg: Ymchwiliad Covid-19 y DU – 29/03/2023
Ymchwiliad COVID-19 y DU i glywed yn uniongyrchol am brofiadau pobl anabl a’u teuluoedd yn ystod y pandemig Mae Ymchwiliad Covid-19 y DU wedi’i sefydlu i archwilio ymateb y DU i bandemig Covid-19 a’i effaith, ac i ddysgu gwersi ar gyfer y dyfodol. Cadeirir yr Ymchwiliad gan y Farwnes Heather Hallett, cyn farnwr yn y […]