Arolwg aelodau Anabledd Cymru 2024

Disability Wales logo which has the organisation name in English and Welsh in plain text on a white background. The words are framed on the left hand side by four spirals in DW's trademark blue and orange colours.

Yn galw ein haelodau!

Fel y nodwyd yn ein cyhoeddiad rhanddeiliaid diweddar, mae Anabledd Cymru yn cynnal rhaglen o newidiadau a fydd yn ailgynllunio ac ailddatblygu’r sefydliad i sicrhau ein bod yn addas i’r diben yn y dyfodol. Rhan allweddol o’r rhaglen hon yw sicrhau bod lleisiau ein haelodau’n cael eu clywed, a fydd yn helpu i lywio ein hadolygiad cynllunio strategol.

Drwy gwblhau ein harolwg, byddwch yn ein helpu i osod ein blaenoriaethau ar gyfer y pum mlynedd nesaf ac yn caniatáu inni sicrhau ein bod yn darparu’r gwasanaethau a’r gweithgareddau y mae ein haelodau eu heisiau.

Dylai’r arolwg hwn gymryd tua 20 munud i’w gwblhau. Cysylltwch â Leandra.craine@disabilitywales.org os hoffech unrhyw gymorth.

Ewch i SurveyMonkey i gwblhau’r arolwg ar-lein neu lawrlwythwch fersiwn Word isod a’i ddychwelyd i leandra.craine@disabilitywales.org.

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members