Annheg, di-sail ac anniogel: Cynigion Llywodraeth Cymru ar godi’r uchafswm tâl wythnosol ar gyfer gofal a chymorth dibreswyl i oedolion

Disability Wales logo which has the organisation name in English and Welsh in plain text on a white background. The words are framed on the left hand side by four spirals in DW's trademark blue and orange colours.

Mae cynigion Llywodraeth Cymru i alluogi awdurdodau lleol i gynyddu’r uchafswm taliadau wythnosol y mae’n rhaid i bobl anabl eu talu am ofal a chymorth cymdeithasol y mae mawr eu hangen yn annheg, yn ddi-sail ac yn anniogel, dywed sefydliadau sy’n cynrychioli buddiannau Pobl Fyddar, Pobl Anabl, Pobl Hŷn a Gofalwyr.

Roedd adroddiad AC Prin yn Goroesi (2023) yn nodi effaith enbyd yr argyfwng costau byw ar bobl anabl. Dangosodd yr adroddiad fod bron i 40% o bobl anabl Cymru yn byw mewn tlodi.

Mae bod yn berson byddar, anabl a/neu hŷn yn ddrud gyda chostau ychwanegol na ellir eu hosgoi; costau ynni uchel i gadw cartrefi’n gynnes, costau uchel offer arbenigol angenrheidiol a mwy o ddibyniaeth ar drafnidiaeth. Mae’r costau hyn yn wariant ychwanegol hanfodol ond nid ydynt yn cael eu talu’n llawn gan y Llywodraeth.

Mae gofal a chymorth personol yn gost hanfodol arall sy’n ymwneud â phobl fyddar, anabl a/neu hŷn. Fodd bynnag, mae’r ‘isafswm incwm’ a bennwyd gan Lywodraeth Cymru yn yr asesiad codi tâl tecach yn annigonol i dalu costau gwirioneddol pobl fyddar, anabl a/neu hŷn yn ogystal â chostau byw dyddiol.

Mae ymchwil pellach gan ein sefydliadau yn ystod y cyfnod ymgynghori wedi dangos sut y bydd taliadau cyfredol a chynnydd pellach yn gwaethygu’r caledi ariannol y mae pobl fyddar, anabl a hŷn yn cael eu gorfodi i fyw ynddo. Mae llawer o’r rhai sy’n talu’r taliadau hyn ar fudd-daliadau ac nid ydynt yn gwybod sut y gallant fforddio unrhyw godiadau.

Ar ben hynny, mae ein canfyddiadau’n datgelu’r amrywiad eang a’r diffyg eglurdeb ar draws awdurdodau lleol wrth gynnal yr asesiad ariannol a’r anawsterau i dderbynwyr gofal cymdeithasol wrth herio’r taliadau a osodwyd.

Ni fydd y taliadau uwch yn ddigon agos i leddfu’r pwysau ariannol ar awdurdodau lleol, ond eto bydd yn arwain at ganlyniadau enbyd i lawer o bobl fyddar, anabl a hŷn. Bydd hyn yn cynnwys optio allan o dderbyn cymorth hanfodol, a fydd nid yn unig yn golygu dal i fyw mewn tlodi ariannol ond tlodi lles. Heb os, bydd hyn yn cynyddu’r pwysau ar y GIG i gynnal llesiant yn ogystal â chynyddu dibyniaeth ar Ofalwyr di-dâl.

Mae’r consortiwm o sefydliadau yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

  • Dileu’r cynnig i gynyddu’r cap ar daliadau gofal cymdeithasol dibreswyl i oedolion,
  • Symud gwaith ymlaen tuag at Wasanaeth Gofal Cenedlaethol, a fyddai’n gwneud gofal cymdeithasol yn rhad ac am ddim pan fo angen,
  • Adolygu’r isafswm incwm,
  • Ar y cyd â sefydliadau sy’n cynrychioli pobl hŷn, pobl fyddar, pobl anabl a Gofalwyr, adolygu a chysoni’r broses asesu ariannol ledled Cymru.

Llofnodwyr y Consortiwm:

Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan – admin@allwalesforum.org.uk

Age Cymru – helen.twidle@agecymru.org.uk

‘Cynghrair Pobl Hŷn’ Cymru

Anabledd Cymru – megan.thomas@disabilitywales.org

Anabledd Dysgu Cymru – aled.blake@ldw.org.uk

MS Society – mscymru@mssociety.org.uk

Pobl yn Gyntaf Gymru Gyfan

WCDP – cath@wcdeaf.org.uk

Wales Council of the Blind

Dolenni:

Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru:

Codi’r uchafswm tâl wythnosol ar gyfer gofal a chymorth dibreswyl i oedolion | LLYW.CYMRU

Adroddiad AC Prin yn Goroesi (2023).

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members