Anabledd Cymru yn rhoi galwad frys i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei ddrafft hir-ddisgwyliedig o Gynllun Gweithredu Hawliau Anabledd

Disability Wales logo which has the organisation name in English and Welsh in plain text on a white background. The words are framed on the left hand side by four spirals in DW's trademark blue and orange colours.

Rhoddodd Anabledd Cymru (AC) dystiolaeth yn y Senedd ddydd Llun 14eg Hydref mewn ymateb i ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i ‘Anabledd a Chyflogaeth’.

Cyhoeddodd AC alwad frys i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei ddrafft hir-ddisgwyliedig o Gynllun Gweithredu Hawliau Anabledd gan dynnu ar waith helaeth y Tasglu Hawliau Anabledd a gyfarfu rhwng Tachwedd 2021 – Gorffennaf 2024. Daw hyn yng nghanol pryderon cynyddol am y diffyg cynnydd a’r atebolrwydd wrth sicrhau hawliau cyfartal a chynhwysiant i unigolion anabl ledled y wlad ers effaith adroddiad ‘Drws ar Glo’ Covid-19 yn 2021.

Disgwylir i’r drafft o Gynllun Gweithredu Hawliau Anabledd fynd i’r afael â chyfres eang o faterion, gan gynnwys mynediad at ofal iechyd, addysg, gofal cymdeithasol yn ogystal â chyflogaeth i bobl anabl yng Nghymru. Fe’i gwelir fel dogfen allweddol a fyddai’n amlinellu camau penodol i wella cynhwysiant, dileu rhwystrau, ac ymdrin â’r heriau systemig sy’n wynebu unigolion anabl.

Mynegodd Anabledd Cymru rwystredigaeth ynghylch yr oedi, gan bwysleisio bod pobl anabl yng Nghymru yn parhau i wynebu anghydraddoldebau ac heriau sylweddol, gan gynnwys effaith barhaus pandemig COVID-19 ynghyd â’r argyfwng costau byw. Mae’r sefydliad wedi tynnu sylw at yr angen am ymrwymiadau clir, wedi’u hamseru, gan Lywodraeth Cymru i ddiogelu hawliau a hurddas unigolion anabl.

Mae’r oedi wrth gyhoeddi’r cynllun gweithredu yn effeithio ar gynnydd Llywodraeth Cymru gyda mynd i’r afael â’r materion a godwyd gan aelodau’r Pwyllgor, gan gynnwys y bwlch cyflogaeth a chyflog parhaus i bobl anabl, y niferoedd isel o bobl anabl sy’n cymryd prentisiaethau a gwahaniaethu yn y gweithle. Roedd y rhain i gyd yn bryderon allweddol a amlygwyd yn yr Adroddiad Drws ar Glo ac gan bobl anabl a oedd yn ymwneud â Gweithgorau’r Tasglu.

Mae’r alwad hon yn adlewyrchu pryderon ehangach y gymuned anabledd yng Nghymru, wrth iddynt geisio polisïau mwy cadarn i fynd i’r afael â hygyrchedd, cyfiawnder cymdeithasol, a chydraddoldeb, gan sicrhau bod lleisiau pobl anabl yn cael eu clywed ac yn cael eu hadlewyrchu mewn polisïau llywodraethol.

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members