Anne Champ
Is-gadeirydd
Anne yw cynrychiolydd a enwir Canolfan Byw’n Annibynnol Dewis. Dechreuodd ei rôl fel aelod o’r bwrdd ym mis Hydref 2020 ar ôl cael ei henwebu gan ei chyflogwr, sy’n un o aelodau Sefydliadau Pobl Anabl Anabledd Cymru. Cafodd Anne ei hethol yn Is-Gadeirydd y Bwrdd ym mis Mai 2022.
Mae gan Anne ddiddordeb mewn sut y gall polisi fod yn dylanwadu ar fod â nam yng Nghymru a sut mae hynny’n hidlo i’r unigolyn. Yn fam i ddau o fechgyn, hoffai Anne weld y Model Cymdeithasol o Anabledd yn cael ei ddysgu mewn ysgolion. Mae ganddi ddiddordeb hefyd ym meysydd iechyd meddwl a chefnogaeth cymheiriaid. Yn ei hamser hamdden, mae Anne yn hoffi darllen, dysgu Sbaeneg a gwylio’r teledu, yn enwedig coginio, rhaglenni dogfen, comedi a dramau da.