Age Cymru training resources
Nod yr adnoddau hyn yw rhoi trosolwg i chi o agweddau allweddol y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mewn perthynas ag eiriolaeth, ac yn benodol, Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol. Datblygwyd gan Age Cymru, mewn partneriaeth ag Anabledd Cymru, Prifysgol Abertawe a cyn-Brif Weithredwr Action for Advocacy Martin Coyle trwy’r Gronfa Grantiau ar gyfer Cydgynhyrchu. Mae’r adnoddau hyn yn edrych ar Ran 10 y Ddeddf ar eiriolaeth a sut mae eiriolaeth yn cyfrannu at rannau eraill o’r Ddeddf. Maent hefyd yn ceisio meithrin ymwybyddiaeth a dealltwriaeth gyda’r sawl a allai weithio gyda gwasanaethau eiriolaeth neu atgyfeirio unigolion atynt.
Cymraeg: http://www.cgcymru.org.uk/adnoddau-dysgu-1/eiriolaeth/