Mae Anabledd Cymru & Canolfan Cydweithredol Cymru yn falch o gyhoeddi’r tri grŵp a ddewiswyd i fod yn rhan o gymal nesaf project Mentrau Cydweithredol dan Arweiniad Dinasyddion.
Bydd yn sefydlu un fenter gydweithredol yng Nghymru, gan roi mwy o reolaeth i bobl dros eu gofynion cymorth a chreu opsiwn newydd i reoli taliadau uniongyrchol. Cyllidwyd y project gan grant arloesi’r Loteri Fawr tan fis Mawrth 2018.
Mae’r project wedi dewis tri grŵp ar draws y wlad (Cymydog, GOYA a Menter Bywyd Annibynnol) i ddatblygu eu syniadau ar gyfer y project. Bwriedir gwahodd y tri grŵp i ddefnyddio’r hyfforddiant, cymorth a chyllid ar gael drwy’r project er mwyn sefydlu beth a gredir fydd y fenter gydweithredol gyntaf o’i bath yn y Deyrnas Unedig.
Cymydog (Wrecsam)
Grŵp cymunedol yn Wrecsam sy’n edrych i sefydlu menter taliadau uniongyrchol yn Uned Pobl Hŷn Plas yn Rhos, Rhosllannerchrugog.
Bwriad Cymydog yw crynhoi taliadau uniongyrchol y trigolion er mwyn darparu gofal amser llawn, yn cynnwys gwasanaeth dros nos sydd o dan fygythiad ar hyn o bryd. Nod y grŵp yw defnyddio’r fenter i wella rhwydweithiau cymorth yr aelodau a gwella eu bywydau’n gyffredinol wrth drefnu teithiau ac amryw weithgareddau.
GOYA (Sir Fynwy)
Grŵp o unigolion a chyrff yn sir Fynwy sydd wedi dod ynghyd i ddatblygu menter taliadau uniongyrchol i weithredu ar draws y sir.
Ei nod yw helpu pobl anabl yn y sir i ddefnyddio taliadau uniongyrchol ‘er gwella ansawdd bywydau’, yn cynnwys defnyddio taliadau uniongyrchol mewn ffyrdd creadigol. Mewn ardal wledig, mae’r grŵp yn gobeithio gwella rhwydweithiau cymorth a lles pobl ar draws y sir.
Menter Bywyd Annibynnol (sir Benfro)
Mae Grŵp Mynediad Sir Benfro yn edrych i ehangu’r cymorth mae’n darparu ar draws y gorllewin wrth ddatblygu menter gydweithredol bywyd annibynnol. Y nod fydd hyrwyddo taliadau uniongyrchol ar draws y rhanbarth er mwyn helpu mwy o bobl anabl i elwa o’r budd-daliadau sydd ar gael.
Y bwriad yw sefydlu ‘both’ yn sir Benfro ac yna mynd ymlaen i gydweithio â chyrff pobl anabl eraill i sefydlu canghennau newydd yn y siroedd cyfagos.
Croesawyd y cyhoeddiad gan yr Athro Mark Drakeford AC, gweinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol:
“Cydweithredu yw’r ffordd ymlaen i ddarparu newidiadau positif a gwirioneddol ar gyfer pobl sy’n defnyddio gwasanaethau cymdeithasol. Bydd y project hwn yn gyfle i bobl gynllunio a rheoli taliadau uniongyrchol yn eu hardaloedd, oherwydd er mwyn cynnal taliadau uniongyrchol yn effeithiol rhaid ymateb i anghenion pobl. Rwy’n edrych ymlaen at ddilyn ei lwyddiant.”
Dywedodd Rhian Davies, prif weithredwraig Anabledd Cymru:
“Yn dilyn lansiad y project ym mis Mawrth a’r sioeau teithiol a gynhaliwyd dros yr haf, mae’n gyffrous cyrraedd pwynt ble mae tri grŵp o wahanol rannau o’r wlad wedi gwneud cynigion llwyddiannus i ddatblygu mentrau taliadau uniongyrchol yn eu hardaloedd. Gyda’n partner Canolfan Cydweithredol Cymru, rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’r tri grŵp i ddatblygu eu cynigion, gan arwain at wasanaethau fydd yn rhoi rheolaeth i bobl dros wasanaethau cymorth eu hunain.”
Dywedodd Derek Walker, prif weithredwr Canolfan Cydweithredol Cymru:
“Bydd y project arloesol yma’n rhoi rheolaeth i bobl dros eu gwasanaethau cymorth. Mae ymroddiad, creadigrwydd ac ysbryd entrepreneuraidd y tri grŵp yn gyffrous iawn ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw ar eu syniadau i ddatblygu mentrau cydweithredol.”
Dywedodd cyfarwyddwr Cymru, y Loteri Fawr, John Rose:
“Mae’r Cronfa’r Loteri Fawr wedi ymrwymo i gefnogi gwelliannau gwirioneddol o fewn cymunedau difreintiedig ond yn cydnabod nad yw’r dulliau presennol yn gweithio bob amser a bod rhai anghenion yn newydd a heb unrhyw ffordd o’u taclo ar hyn o bryd. Ond mae’r project hwn yn dangos bod ein cylid yn gallu gwireddu syniadau newydd gan bobl.”
Bydd y project yn dewis un grŵp i gael hyfforddiant, cymorth a chyllid i sefydlu menter gydweithredol yn Chwefror 2016 gyda’r nod o ddechrau gweithredu a chefnogi’r aelodau erbyn Ebrill 2017. Manylion pellach gan:
Rebecca Newsome (Anabledd Cymru) Rebecca.newsome@disabilitywales.org 029 2088 7325