Mynediad at Wleidyddiaeth

On a muted gold background, the 4 blue DW logo petals surround the letters A2P.  Below is the bilingual project title ‘Access to Politics’ with the Welsh first. Below this is slightly smaller text saying Rhwydwaith Llawr Gwlad / Grassroots network. In the top left corner is a Welsh Government logo in black. On one side is the Welsh Dragon with a line in the middle separating it from text that says: Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government.

Ers tro byd mae gwir angen wedi bod i Wleidyddiaeth fod yn fwy cynhwysol a chynrychioladol o bobl Fyddar a phobl anabl. Mae’r Rhwydwaith Llawr Gwlad Mynediad at Wleidyddiaeth yn ceisio mynd i’r afael â hyn. Bydd yn datblygu’r gwaith hollbwysig a gafodd ei wneud yn y Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig Cymru cyn Etholiadau 2021 y Senedd ac Etholiadau 2022 Llywodraeth Leol. Ei nod yw cael rhagor o bobl Fyddar a phobl anabl i fod â diddordeb mewn gwleidyddiaeth a chymryd rhan mewn gwleidyddiaeth gan sefyll i gael eu hethol ar lefel genedlaethol a lleol yng Nghymru.

Mae’r prosiect hwn yn cael cyllid gan Lywodraeth Cymru a bydd iddo sawl gwedd ac mae nifer o weithgareddau gwahanol ar y gweill:

  • Creu Rhwydwaith Gwleidyddiaeth Pobl Anabl trawsbleidiol
    • Darparu cefnogaeth gan gymheiriaid
    • Datblygu’r wybodaeth a’r sgiliau i sefyll fel ymgeiswyr effeithiol
    • Darparu hyfforddi a mentora
  • Creu Siarter Mynediad at Wleidyddiaeth Cymru
    • Wedi’i gyd-gynhyrchu gyda rhai yn y Rhwydwaith i roi gwybod am yr arferion gorau i bob Plaid Wleidyddol yng Nghymru
    • Gweithio gyda phob Plaid Wleidyddol i sicrhau ymrwymiad i weithredu’r Siarter
  • Creu pecynnau cymorth arferion gorau
    • Darparu gwybodaeth ymarferol am bynciau fel cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth a sefyll am swydd etholedig
  • Eirioli dros hawliau Pobl Anabl er mwyn iddynt gymryd rhan lawn ac effeithiol mewn bywyd gwleidyddol
    • Glynu wrth Erthygl 29 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl

Dylai pobl Fyddar a phobl anabl sydd â diddordeb mewn Gwleidyddiaeth a/neu wybod rhagor, gysylltu â’n Swyddog Prosiect Mynediad at Wleidyddiaeth, Kat Watkins, trwy ebostio kat.watkins@disabilitywales.org.

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members