Fel cyfranogwr craidd, bydd Anabledd Cymru yng Ngwrandawiadau Cyhoeddus Covid-19 Cymru (Modiwl 2b), yn dechrau ar 27 Chwefror yng Nghaerdydd. Bydd AC yn cynrychioli buddiannau a phryderon Sefydliadau Pobl Anabl ynghylch effaith ddinistriol Covid-19 ar bobl anabl yng Nghymru.
Pobl anabl yw 22% o boblogaeth Cymru gyda bron i 40% yn byw mewn tlodi, y gyfradd uchaf yn y DU, ac maent yn fwy tebygol o fyw mewn tai rhent a thai gorlawn. Ar ben hynny, roedd deng mlynedd o galedi cyn y pandemig wedi dirywio gwasanaethau cyhoeddus y mae llawer o bobl anabl yn dibynnu arnynt.
O’r cychwyn cyntaf, cododd AC bryderon gyda Llywodraeth Cymru ynghylch sut y byddai’r pandemig yn effeithio ar bobl anabl yng Nghymru, o ystyried yr anghydraddoldebau amlwg sydd eisoes yn bodoli. Wrth i fesurau cloi ddod i rym, sylweddolwyd ein hofnau gyda llawer o bobl anabl yn adrodd am dorri eu hawliau dynol gan gynnwys:
- Colli cymorth gofal cymdeithasol a hawliau i asesiad
- Diffyg mynediad at fwyd a hanfodion eraill
- Ofn a phryder ynghylch defnyddio hysbysiadau ‘Peidiwch â cheisio dadebru’ yn gyffredinol
- Mynediad cyfyngedig i ofal iechyd a chymorth gyda chyflyrau hirdymor
Y peth mwyaf syfrdanol oedd y gyfradd marwolaethau uchel iawn o Covid-19 ymhlith pobl anabl yng Nghymru, sef bron i 7 o bob 10 marwolaeth, o gymharu â bron i 6 o bob 10 ledled y DU.
Cafodd yr achosion hyn o dorri rheolau a materion eraill eu nodi yn yr adroddiad, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru a gefnogodd AC i gyd-gynhyrchu Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19 (2021). Mewn ymateb i’w ganfyddiadau a’i argymhellion, sefydlodd y Prif Weinidog Dasglu Hawliau Anabledd i ddatblygu Cynllun Gweithredu gyda’r nod o fynd i’r afael â’r anghydraddoldeb sydd wedi gwreiddio’n ddwfn y mae pobl anabl yn ei wynebu.
Dywedodd Rhian Davies, Prif Weithredwr Anabledd Cymru:
“Mae Gwrandawiadau Cyhoeddus Ymchwiliad Covid-19 yng Nghymru yn gyfle arwyddocaol i dynnu sylw at realiti llwm bywyd i bobl anabl yn ystod y pandemig: yr unigrwydd a’r dryswch yn ogystal â cholli pŵer, llais a dinasyddiaeth.
Nid oedd dim byd yn anochel am y 68% o farwolaethau o COVID-19 ymhlith pobl anabl yng Nghymru. Fel y datgelodd yr Adroddiad Drws ar Glo, ffactorau cymdeithasol a gyfrannodd at yr ystadegyn difrifol hwn, gan gynnwys gwahaniaethu, tai gwael, tlodi, statws cyflogaeth, a sefydliadoli ynghyd â diffyg PPE, gwasanaethau gwael ac anghyson, gwybodaeth gyhoeddus anhygyrch a dryslyd.
I bobl anabl yng Nghymru, mae’r Gwrandawiadau’n hollbwysig er mwyn galw’r rhai sydd â grym a chyfrifoldeb i gyfrif a sicrhau bod gwersi hanfodol yn cael eu dysgu ar gyfer y dyfodol.”
Nodiadau
Anabledd Cymru (AC) yw’r gymdeithas genedlaethol o sefydliadau pobl anabl sy’n ymdrechu dros hawliau a chydraddoldeb pob person anabl.
Ysgrifennwyd yr adroddiad Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19 (2021) gan yr Athro Debbie Foster ar y cyd â Grŵp Llywio Fforwm Cydraddoldeb Anabledd Llywodraeth Cymru, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o Sefydliadau Pobl Anabl ac unigolion anabl. Cadeirydd y grŵp oedd Prif Weithredwr AC, Rhian Davies: Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19 (2021)
Cynrychiolir AC gan dîm yn Bhatt Murphy dan arweiniad Shamik Dutta a Charlotte Haworth-Hird a’r cwnsler Danny Friedman KC, Anita Davies a Danielle Manson yn Matrix Chambers.
Bydd Modiwl 2b Ymchwiliad Covid-19 yn ymchwilio ac yn gwneud argymhellion ynghylch penderfyniadau gwleidyddol a gweinyddol craidd Llywodraeth Cymru mewn perthynas â phandemig Covid-19.