Sut gall y cyfryngau wella cynrychioliaeth o bobl anabl?
Dyna oedd cwestiwn mawr ein Cynhadledd Flynyddol eleni. Ymunodd darlledwyr, y cyfryngau, gweithwyr proffesiynol anabl yn y cyfryngau a Gweinidogion Llywodraeth Cymru â ni yng Nghlwb Criced Sir Forgannwg wrth i thema eleni, Herio Ystrydebau, Newid Cymdeithas: Pobl Anabl a’r Cyfryngau, ysgogi trafodaethau a dadlau bywiog.
Wedi’i gyflwyno fel digwyddiad hybrid, ymunodd rhai aelodau, ffrindiau a chynghreiriaid â ni mewn person tra bod eraill wedi mewngofnodi ar-lein i wylio’n fyw ar YouTube.
Roedd y gynhadledd, a noddir gan S4C, yn archwilio cynrychiolaeth pobl anabl ar draws y cyfryngau print, digidol a darlledu, gan dynnu ar enghreifftiau cadarnhaol a negyddol ac ysgogi sgyrsiau pwysig rhwng y bobl sy’n cael sylw yn y straeon a’r rhai sy’n gyfrifol am eu rhannu.
Dros y blynyddoedd, anaml y mae straeon newyddion ac eitemau yn y cyfryngau am bobl anabl wedi bod yn adlewyrchiad cywir o’r bywydau rydym yn eu byw a’r rhwystrau cymdeithasol rydym yn eu hwynebu. Yn amlach na pheidio, mae straeon yn glynu at ystrydebau gan fytholi pobl anabl fel chwilwyr budd-daliadau neu, mewn cyferbyniad, yn cael eu cyflwyno fel archarwyr sydd wedi cyflawni campau mawr.
Ar y llaw arall, gwyddom y gall y cyfryngau fod yn arf gwych i herio’r stereoteipiau hyn a gallai wasanaethu fel grym pwerus o ran newid barn cymdeithas am anabledd, hyrwyddo ein hawliau a chodi ymwybyddiaeth o’r rhwystrau sy’n ein hanablu.
Roedd sgyrsiau gonest am gynrychiolaeth yn y cyfryngau wrth galon yr agenda y cawsom ein harwain drwyddi yn nwylo diogel Cadeirydd ein cynhadledd, Emma Meese, Cyfarwyddwr Newyddiaduraeth Gymunedol ym Mhrifysgol Caerdydd.
‘Dyma lle mae’r sgwrs nid yn unig yn dechrau ond lle mae gweithredu’n digwydd,’ meddai Emma wrth iddi groesawu’r 100+ o bobl yn yr ystafell a’r cannoedd a fu’n gwylio ar-lein hefyd, sy’n golygu mai hon oedd cynhadledd fwyaf Anabledd Cymru ers amser maith.
Prif areithiau: Yr ymgyrchwyr
Gosododd ein Prif Weithredwr y naws ar gyfer trafodaethau’r diwrnod gan ddatgan y ffaith fod y cyfryngau, yn hanesyddol, boed yn llenyddiaeth, ffilm neu newyddion, wedi portreadu a gweld pobl anabl naill ai fel rhai ‘trasig a diymadferth neu’n drasig a dewr’.
Aeth Rhian ymlaen i egluro bod y catalog cynyddol o stereoteipiau y mae’r cyfryngau’n aml yn tynnu ohono ‘yn troi pobl yn wrthrychau tosturi neu ddirmyg neu fel porn ysbrydoledig i’r gymdeithas ehangach, gan ddwyn pobl yn unigol ac ar y cyd o unrhyw asiantaeth neu reolaeth dros eu bywydau a hefyd, ac yn fwyaf sylfaenol, anwybyddu’r rhwystrau a osodir yn eu ffordd yn y system addysg, y gweithle neu’r gymuned.’
Dywedodd hefyd wrth y gynulleidfa fod y cyfryngau wedi derby naratif llywodraeth y DU bod marwolaethau pobl anabl yn ystod pandemig Covid-19 yn ‘anochel a gwariadwy’ a holodd pam nad oedd unrhyw ymdeimlad o ‘sgandal cenedlaethol’ a ‘dim sylw’ yn y cyfryngau i gyfradd marwolaethau uchel pobl anabl yn ystod y cyfnod hwn.
‘Fodd bynnag, roedd twf y Mudiad Pobl Anabl a’r ymgyrch dros ddeddfwriaeth hawliau sifil yn yr wythdegau a’r nawdegau yn her wirioneddol i gymdeithas ac yn enwedig y cyfryngau,’ ychwanegodd Rhian cyn nodi sut mae rôl ymgyrchu Sefydliadau Pobl Anabl ar draws y DU wedi cyfrannu at newid barn.
Ond er gwaethaf y cynnydd yn y gynrychiolaeth o faterion anabledd ar raglenni prif ffrwd, mae ‘wyneb haeddiannol ac anhaeddiannol anabledd’ yn bodoli o hyd. Dyna pam, meddai Rhian, mae angen mwy o bobl anabl yn gweithio y tu ôl i’r llenni i herio’r ‘naratif a dderbynnir.’
‘Mae angen i ni weld newyddion a rhaglenni sy’n ein hadlewyrchu fel pobl anabl, realiti ein bywydau yn ogystal â’n gobeithion a’n dyheadau.’
Gwyliwch araith Rhian yn llawn.
Adleisiwyd nodau o araith Rhian yn sgwrs y newyddiadurwr ac actifydd anabl arobryn, Rachel Charlton-Dailey, a siaradodd yn helaeth am bortreadu pobl anabl fel ‘ffugwyr’ neu ‘sgrythurwyr budd-daliadau’ a pha mor niweidiol y gall y naratif yma fod.
Honnodd Rachel fod ‘newyddiadurwyr ofn defnyddio’r gair anabl’ ac yn lle hynny yn defnyddio termau sy’n atgyfnerthu ‘ableism’.
Naratif ystrydebol sy’n cael ei ategu gan gamddefnydd iaith yw’r rheswm y galwodd Rachel ar Sefydliad Safonau’r Wasg Annibynnol (IPSO), sy’n rheoleiddio’r rhan fwyaf o bapurau newydd a chylchgronau’r DU, i gyflwyno canllawiau y mae mawr eu hangen pan yn adrodd ar faterion anabledd.
Ond er iddi gyflwyno dros 300 o gwynion am straeon yn canoli pobl anabl i’r rheoleiddiwr, dywedwyd wrth Rachel fod côd y golygydd yn berthnasol dim ond pan fydd sefydliad cyfryngol yn gwahaniaethu yn erbyn unigolyn, nid pan fydd yn ymosod ar grŵp fel pobl anabl.
Dywedodd Rachel wrth y gynhadledd: ‘Mae gweithio mewn diwydiant sy’n mynd ati’n weithredol i beryglu bywydau fy nghymuned yn flinedig.’
Fe wnaeth eu rhwystredigaeth gyda’r ffordd y mae pobl anabl yn cael eu portreadu yn y cyfryngau print ac anhygyrchedd y diwydiant ysgogi Rachel i greu eu cyhoeddiad eu hunain o’r enw The Unwritten, llwyfan lle gall ysgrifenwyr anabl ‘gael eu barn heb ei hidlo allan i’r byd.’
Arweiniodd cynnydd The Unwritten i gyfres Disabled Britain: Doing it for Ourselves yn y Daily Mirror, wedi ei olygu gan Rachel. Roedd cael cyfres o straeon pobl anabl a oedd yn rhydd o iaith sy’n gwahaniaethu ac yn canolbwyntio ar rwystrau cymdeithasol yn hytrach na nam neu gyflwr iechyd person mewn tabloid mawr yn chwa o awyr iach ac ar ddiwedd eu haraith, ailadroddodd Rachel bwysigrwydd hyn, gan ddweud: ‘Mae pobl anabl yn haeddu byw bywydau llawn, cymhleth, anniben, hapus, hyd yn oed yn drist ac rydym yn haeddu cyfryngau sy’n cynrychioli hynny.’
Gwyliwch araith Rachel yn llawn.
Gan gadw at thema’r cyfryngau print, y ffoto-newyddiadurwr a Llywydd Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr (NUJ), Natasha Hirst, oedd nesaf i annerch y gynulleidfa.
Gan ein bod yn gyn aelod o Fwrdd a staff Anabledd Cymru, rydym wedi gweithio’n agos gyda Natasha dros y blynyddoedd ac roeddem yn falch iawn o’i chlywed yn dweud bod AC wedi chwarae ‘rhan bwysig iawn’ yn ei thaith fel actifydd anabledd.
Dywedodd Natasha, yn wahanol i ddarlledu ar y teledu, nad yw’n ofynnol i gyhoeddiadau fel papurau newydd a chylchgronau gasglu a rhannu ystadegau ar amrywiaeth a chydraddoldeb a mynegodd sut mae’r diffyg gwybodaeth hwn yn ei gwneud yn anodd i weithredwyr brofi ‘nad yw newyddiaduraeth yn le cyfartal a chynhwysol i bobl anabl.’
O ran y straeon sy’n cael eu hysgrifennu am bobl anabl, dywedodd ‘nad yw llawer o olygyddion a rheolwyr yn deall pwysigrwydd y Model Cymdeithasol,’ sy’n golygu bod erthyglau’n cael eu siapio gan ystrydebau.
Dyna pam, meddai Natasha, ‘Mae angen i bobl anabl gael mwy o reolaeth dros y straeon sy’n cael eu hadrodd amdanom ni.’
Yn yr un anadl, nododd y diffyg difrifol o newyddiadurwyr anabl mewn rolau arweinyddiaeth uwch a pha mor anodd y gall fod i newyddiadurwyr anabl dorri i mewn i’r diwydiant.
Meddai: ‘Mae newyddiadurwyr anabl yn profi llawer o rwystrau yn eu gyrfaoedd, ac er bod cynlluniau i gael pobl anabl i mewn i newyddiaduraeth, ychydig iawn o gefnogaeth sydd iddynt ddatblygu eu gyrfaoedd wrth gyrraedd y rolau uwch hynny lle gallant ddylanwadu ar newid.
‘Nid oes digon o fodelau rôl anabl, nid yw gweithleoedd yn ddigon hygyrch, ac mae llawer o newyddiadurwyr anabl yn dweud wrth yr undeb eu bod yn profi gwahaniaethu ofnadwy yn y gwaith.’
Pwysleisiodd y dylanwad y gall newyddiaduraeth a’r cyfryngau ei gael ar gymdeithas, gan ddweud: ‘Pan fyddwn yn gwneud ein gwaith yn dda, gall newyddiadurwyr helpu i newid cymdeithas er gwell ond pan fyddwn yn methu, rydym yn atgyfnerthu anghydraddoldeb a gwahaniaethu.’
Daeth Natasha â’i sgwrs i ben drwy ddweud:: Gyda’n gilydd, gadewch i ni yrru ‘ableism’ allan a thrawsnewid y cyfryngau yma yng Nghymru ac arwain y ffordd i bawb arall ei dilyn.’
Gwyliwch araith Natasha yn llawn.
Prif areithiau: Y Gwneuthurwyr Polisi
Yn dilyn sgyrsiau gan Rachel a Natasha, roedd yn bleser gennym groesawu nid un ond dau o Weinidogion Llywodraeth Cymru, Jane Hutt AS, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip a Dawn Bowden AS, y Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth.
Siaradodd Jane Hutt AS am waith y Tasglu Hawliau Anabledd sy’n ‘nodi achosion sylfaenol gwahaniaethu ac anghydraddoldebau sy’n deillio o ganlyniad i hynny a chamau tymor byr, canolig a hir sydd eu hangen i fynd i’r afael â nhw.’
Esboniodd fod gwaith y Tasglu yn ‘edrych ar roi ymyriadau ar waith i helpu i siapio’r ffordd y mae cynrychiolaeth pobl anabl yn y cyfryngau yn esblygu o un sy’n cael ei ddominyddu gan ystrydebau i un lle mae pob person anabl yn cael ei weld fel yr unigolyn yr ydyn nhw.’
‘Heddiw, rwyf nid yn unig yn ailadrodd bod y llywodraeth hon yn cydnabod y gwahaniaethu a’r anghydraddoldebau y mae pobl anabl yn eu hwynebu bob dydd ond rydym yn benderfynol o fynd i’r afael â nhw a chymryd camau sylweddol i wneud hynny.’
Diolchodd i’r gynulleidfa am eu parodrwydd i gyfrannu ac ymwneud â gwaith y tasglu ac am y dystiolaeth y mae pobl wedi’i rhannu fel rhan o’i weithgorau.
Sylw agoriadol Dawn Bowden AS oedd ‘yn rhy aml o lawer, gallai’r portread o bobl anabl ar draws y cyfryngau gael ei ddisgrifio, ar y gorau, fel diog ac, ar y gwaethaf, ‘ableism’ pur.’
Gwrthododd yr honiad nad yw’r cyfryngau yn fwy cyfrifol am barhau ystrydebau nag unrhyw sector arall a honnodd y ffaith bod ‘gan y cyfryngau rôl mor fawr i’w chwarae wrth lunio’r gwerthoedd a’r agweddau tuag at bobl anabl.’
Aeth ymlaen i ddweud: ‘Mae’n hanfodol i weithwyr proffesiynol y cyfryngau ymdrin â chynrychiolaeth anabledd gyda gofal, cywirdeb a pharch er mwyn cyfrannu at adeiladu cymdeithas fwy cynhwysol a theg.’
Trwy waith Cymru Greadigol a mentrau eraill, esboniodd y dirprwy weinidog fod Llywodraeth Cymru yn gobeithio ‘mynd rhywfaint o’r ffordd i hwyluso sector cyfryngau sy’n fwy cynhwysol ac yn llawer mwy adlewyrchol o fywydau pobl anabl.’
Panel y Cyfryngau
Roedd yn bryd clywed i ba raddau y mae hynny’n digwydd ar hyn o bryd yn ein panel o gynrychiolwyr cyfryngau o BBC Cymru Wales, ITV Cymru Wales, S4C a WalesOnline, wedi’i gadeirio gan Rachel Charlton-Dailey.
Roedd yn bryd clywed i ba raddau y mae hynny’n digwydd ar hyn o bryd yn ein panel o gynrychiolwyr cyfryngau o BBC Cymru Wales, ITV Cymru Wales, S4C a WalesOnline, wedi’i gadeirio gan Rachel Charlton-Dailey.
Dechreuodd pob cynrychiolydd gyda chyflwyniad byr o’u gwaith o ran amrywiaeth, cydraddoldeb a chynrychiolaeth pobl anabl ar y sgrin, mewn penawdau a thu ôl i’r llenni.
Emma Jenkins, Hyrwyddwr Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ITV Cymru, oedd y cyntaf i siarad. Canolbwyntiodd yn gyntaf ar weithlu ITV Cymru Wales a sut mae ystadegau’n dangos bod 21.6% o’i staff yn Fyddar, anabl neu’n niwroddargyfeiriol, cyn rhannu gwybodaeth am y gwahanol fentrau y mae ITV Cymru wedi’u rhoi ar waith i gynyddu cynrychiolaeth pobl anabl ar ac oddi ar y sgrin.
Nesaf, siaradodd Sian Gwynedd, Pennaeth Diwylliant a Phartneriaethau yn BBC Cymru Wales, am y fenter ‘Siarad Anabledd’ a lansiwyd ar ôl sylweddoli nad oedd BBC Cymru Wales yn gwneud digon o ran cynrychiolaeth anabledd ‘o ran cynnwys a gweithlu.’
Dywedodd Ryan Chappell, Arweinydd Amrywiaeth, Cynaliadwyedd a Phwrpas Cymdeithasol yn S4C bod y sefydliad yn bell y tu ôl o ran cynrychiolaeth anabledd, yn enwedig o ran ei weithlu. Mae’n gweld iaith fel rhwystr arbennig i S4C a mynegodd ddiddordeb mawr mewn clywed gan bobl anabl Cymraeg eu hiaith sydd â diddordeb mewn gweithio yn y diwydiant teledu i sefydlu’r cysylltiadau hynny a hybu nifer y bobl anabl sy’n gweithio i’r sianel.
Yn olaf oedd Catrin Pascoe, golygydd y Western Mail, a siaradodd am bwysigrwydd hyfforddiant cydraddoldeb anabledd i helpu i roi hwb i hyder newyddiadurwyr wrth ohebu ar faterion anabledd. Tynnodd sylw hefyd at y ffaith eu bod weithiau’n gwneud pethau’n anghywir o ran rhannu straeon pobl anabl ond eu bod wedi ymrwymo ac yn agored i gydnabod hyn ac i ddysgu oddi wrth y da yn ogystal â’r drwg.
Yn dilyn y cyflwyniadau byr, teithiodd meicroffon o amgylch yr ystafell wrth i aelodau’r gynulleidfa gael cyfle i ofyn cwestiynau.
Roedd y cwestiynau i’r panel yn amrywio o sut y gellir gwneud y cynnwys a’r gweithlu ei hun yn fwy cynhwysol ac roedd her benodol i’r diffyg sylw i gyfradd marwolaethau uchel pobl anabl yn ystod y pandemig.
Pan ofynnwyd a oedd unrhyw un o’r darlledwyr a’r allfeydd newyddion yn rhoi sylw i ddigwyddiadau ein cynhadledd flynyddol ar eu platfformau, cafodd yr ystafell sioc o glywed pob panelwr yn dweud ‘na’ a mynegodd ein Prif Weithredwr, Rhian Davies, ei siom, gan ddweud bod y cyfryngau yn aml yn defnyddio straeon pobl anabl ac nid ydym yn cael unrhyw beth yn ôl.
Ei hymbil olaf i’r panel oedd: ‘Plîs gwnewch yn well.’
Gwyliwch y panel a’r sesiwn cwestiwn ac ateb yn llawn.
Arddangosfa Cyfryngau Aelodau
Ar ôl cinio, roedd arddangosfa cyfryngau yn dominyddu’r agenda. Gwelodd aelodau ac ymgyrchwyr anabl a oedd yn ymwneud â’r cyfryngau yn trafod eu profiadau o weithio ar sioeau teledu lleol a chenedlaethol a chynrychioli eu straeon yn y cyfryngau.
Yn gyntaf, siaradodd Lee Ellery am ei sioe, Spotlight on Disability, ar SwanTV a pha mor bwysig yn ei farn ef yw tynnu sylw at straeon dilys a chadarnhaol gan bobl anabl.
Nesaf, canmolodd Sara Pickard am ei hamser yn gweithio i ITV Cymru Wales tra ar secondiad o Mencap Cymru. Cafodd y gynulleidfa gip o’r gwaith yr oedd Sara yn ymwneud ag ef a pha mor gynhwysol yr oedd hi’n teimlo oedd y profiad. Rhannwyd clipiau o’i gwaith ar raglenni fel Sharp End hefyd i ymhelaethu ar ei neges.
Daeth Selena Caemawr, sylfaenydd a chyfarwyddwr Aubergine Cafe, â’r arddangosfa i ben gyda sgwrs bwerus am ba mor anodd y gall fod i ddechrau deialog gyda’r cyfryngau, hyd yn oed pan rydych chi wedi sefydlu cysylltiadau. Egluron nhw mai diwydiant anhygyrch yw’r rheswm pam mae pobl niwroddargyfeiriol yn aml yn dewis hunangyflogaeth.
Ni allwn ddiolch digon i’r tri siaradwr am fod mor onest yn eu cyflwyniadau. Roedd y gynulleidfa wedi’i swyno drwy gydol yr arddangosfa ac roedd yn braf canolbwyntio ar gamau cadarnhaol sy’n digwydd yn y cyfryngau hefyd.
Gwyliwch yr arddangosfa yn llawn.
Daeth cadeirydd y gynhadledd, Emma Meese, i’r podiwm i gloi digwyddiadau’r dydd. Wrth grynhoi negeseuon allweddol y diwrnod, dywedodd ei bod yn amlwg bod angen gwneud mwy o ran cynrychiolaeth a mynd i’r afael â cam-gynrychiolaeth, herio naratif y cyfryngau a gosod agenda ar faterion ‘nad ydynt yn eu deall’.
Yn dilyn rhediad o rai o’r ystadegau a rannwyd trwy gydol y dydd, ychwanegodd Emma: ‘Mae’n bwysig iawn canolbwyntio ar bobl nid ystadegau,’ i wneud yn siwr bod cydraddoldeb yn cael ei weithredu a’i gyflawni.
‘Mae cymaint o frwdfrydedd a thalent yn yr ystafell hon, ni all orffen fan hyn.’
Diolch
Hoffem estyn diolch i bawb a ymunodd â ni ar y diwrnod, boed mewn person neu ar-lein.
Diolch enfawr hefyd i bawb a weithiodd yn galed y tu ôl i’r llenni i wneud ein cynhadledd flynyddol yn lwyddiant. O’r rhai a wnaeth y llif byw yn realiti i’r cymorth cyfathrebu a weithiodd yn ddiflino i sicrhau bod y digwyddiad yn hygyrch i gynifer o bobl â phosibl.
Diolch i’n holl siaradwyr a rannodd eu meddyliau, eu harbenigedd a’u profiadau mor agored, gan ysgogi trafodaethau bywiog. Allwn ond gobeithio y byddant yn arwain at weithredu cadarnhaol a phenawdau, straeon a rhaglenni mwy cynrychioliadol a dilys.
Os nad oeddech yn gallu ymuno â ni ar y diwrnod, mae dolenni i fideos o bob sesiwn wedi’u lleoli trwy gydol y blog hwn ond rhag ofn ichi eu colli, dyma ddolen i’r rhestr chwarae llawn ar YouTube.
Tan flwyddyn nesaf!