Ar ran Bwrdd Anabledd Cymru, mae’n bleser gennyf rannu ein Hadroddiad Blynyddol ar gyfer 2022-23, a gymeradwywyd yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol diweddar.
Yng ngeiriau ein Cadeirydd Willow Holloway, ‘Mae wedi bod yn flwyddyn hynod gynhyrchiol arall i Anabledd Cymru. Rydym wedi parhau i gynrychioli ein haelodau yn ystod y cyfnod heriol hwn tra’n cynyddu dealltwriaeth o anghenion pobl anabl. Rydym wedi parhau i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill, gan ddylanwadu ar bolisi yng Nghymru a thu hwnt.’
Mae cyflawniadau allweddol yn cynnwys:
- Ein hymgyrch costau byw a chynhyrchu’r adroddiad ‘Prin yn Goroesi’
- Cael statws cyfranogwr craidd yn Ymchwiliad Covid-19
- Datblygu adnoddau i ysgolion am Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl
- Parhau i gyflwyno’r Rhaglen Fentora arobryn, Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal, yn llwyddiannus
- Cynhadledd Hybrid Dathlu 50 Mlynedd y Ffordd i Hawliau a fynychwyd gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford AS
Roedd ein Hanner Canmlwyddiant yn gyfle i fyfyrio ar yr hyn sydd wedi’i gyflawni o ran datblygu hawliau anabledd a chydraddoldeb dros bum degawd yn ogystal â’r hyn sydd eto i’w gyflawni.
O ystyried effaith Covid-19 ynghyd â’r argyfwng costau byw, mae’n sicr yn gyfnod heriol iawn i nifer gan gynnwys ein haelodau. Yn fwy nag erioed, rydym yn gwerthfawrogi’n fawr eich cefnogaeth a’ch ymgysylltiad parhaus, gan sicrhau bod llais pobl anabl o bob rhan o Gymru yn llywio ein rôl yn llawn wrth ymdrechu dros hawliau a chydraddoldeb.
Rhian Davies, Prif Weithredwr, Anabledd Cymru.