Dewch yn Aelod Penodedig o Fwrdd Anabledd Cymru

Testun gwyn ar gefndir glas tywyll sy'n darllen: Dewch yn Aelod Bwrdd! Rhowch lais cryfach i bobl anabl drwy: Ddatblygu polisi a gwaith AC. Rheoli pobl ac arian AC. Hyrwyddo Anabledd Cymru. Gwnewch gais nawr. www.disabilitywales.org. Mae logo AC wedi cael ei osod mewn cylch gyda border oren wrth ochr y testun ac mae tri sgwâr oren uwchben ac o dan y siâp.

Ydych chi’n angerddol am hawliau a chydraddoldeb anabledd? Oes gennych chi syniadau creadigol a all symud ein sefydliad ymlaen a rhoi llais cryfach i bobl anabl ledled Cymru? Mae’r dyfodol yn gyffrous yma yn Anabledd Cymru a gallech chi fod yn rhan ohono trwy ymgeisio i fod yn aelod penodedig o’r bwrdd. 

Anabledd Cymru (AC) yw cymdeithas genedlaethol Sefydliadau Pobl Anabl yng Nghymru, yn ymdrechu i sicrhau hawliau a chydraddoldeb pobl anabl. Trwy ymgeisio i fod yn aelod penodedig o’r bwrdd, gallwch helpu i lunio ein dyfodol. 

Rydyn ni angen lleisiau newydd i hyrwyddo a lobïo newid ac felly rydym yn chwilio am ystod eang o sgiliau a phrofiadau ar y Bwrdd. Fel sefydliad, rydym am adlewyrchu’r gymuned gyfan o bobl anabl yng Nghymru.

Ein nod fel Sefydliad Pobl Anabl yw dangos arfer da mewn llywodraethu. Rydym yn ymdrechu i ddarparu amgylchedd cefnogol a chwbl gynhwysol sy’n galluogi Cyfarwyddwyr i ffynnu yn ogystal â chynyddu eu doniau trwy ystod o gyfleoedd.

Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan bobl anabl sy’n cael eu tangynrychioli yn ein sefydliad ar hyn o bryd gan gynnwys:

  • Cymunedau lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru
  • Siaradwyr Cymraeg
  • Pobl ifanc

Pam ddylech chi wneud cais?

Angen ychydig eiriau o anogaeth cyn cyflwyno’ch cais? Gwyliwch y fideo byr hwn i glywed rhai o’n Cyfarwyddwyr presennol yn siarad am yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn Aelod Bwrdd a pham nawr yw’r amser i ymuno.

Gwybodaeth bellach

Teitl y rôlCyfarwyddwr / Ymddiriedolwr
Yn atebol i:Cadeirydd a Chyfarwyddwyr y Bwrdd
Tymor:Cyfarwyddwyr Penodedig – hyd at dair blynedd
Diben:Ynghyd â chyd-Gyfarwyddwyr/Ymddiriedolwyr i fod yn gyfrifol am ddatblygu polisi a gwaith AC; rheoli’r sefydliad gan gynnwys ei arian a’i bobl; a gwasanaethu buddiannau gorau AC bob amser
Ymrwymiad:Mynychu cyfarfodydd y Bwrdd yn rheolaidd a chymryd rhan mewn trafodaethau a gwneud penderfyniadau; darllen papurau cyn y cyfarfodydd; mynychu a chymryd rhan mewn Hyfforddiant Sefydlu Bwrdd a Hyfforddiant arall yn ôl yr angen; cymryd rhan mewn Arfarniad Blynyddol a chyfweliadau datblygiad personol gyda’r Cadeirydd

Dyddiad cau: 12yh (hanner dydd) ddydd Llun 4ydd o Dachwedd 2024.

Cyfweliadau: Dydd Mercher, 20fed o Dachwedd.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â ni i geisio sicrhau Cymru fwy cynhwysol i bobl anabl? Gwnewch gais heddiw, edrychwn ymlaen i glywed gennych!

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at:

Leandra Craine – membership@disabilitywales.org

Darganfyddwch fwy ac ymgeisiwch

Mae’r pecyn recriwtio a’r disgrifiad swydd isod yn darparu mwy o wybodaeth am rôl y Bwrdd a bod yn Gyfarwyddwr. Darllenwch yn ofalus a cwblhewch y ffurflen gais.

Dewch yn aelod heddiw i fod yn rhan o beth rydym yn ei wneud

Members