Roedd Hawliau Yma, Hawliau Nawr yn brosiect a oedd yn rhoi’r offer i leoliadau addysg addysgu pob dysgwr yn effeithiol am Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl (CCUHPA neu UNCRDP).
Mae’n bwysig i ni fod gan bob plentyn a pherson ifanc wybodaeth a dealltwriaeth o CCUHPA a’u bod yn gallu ei ddefnyddio ar y cyd â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Mae hyn yn arbennig o bwysig i blant a phobl ifanc anabl y mae eu hawliau’n cael eu hamddiffyn ymhellach gyda’r ddau Gonfensiwn yn cael eu defnyddio ar y cyd.
Arweiniwyd gwaith y prosiect gan Grŵp Cynghori’r Prosiect ac fe’i hariannwyd gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’i ymrwymiad i ymgorffori’r CCUHPA yng Nghyfraith Cymru, a’r angen i addysgu cymdeithas Cymru am y Confensiwn pwysig hwn.
Mae’r holl adnoddau addysgol a gynhyrchwyd fel rhan o’r prosiect hwn, gan gynnwys pecyn ymarferwyr a chynlluniau defnyddiol ar gyfer gwersi, ar gael ar Hwb Llywodraeth Cymru:
Hawliau Yma, Hawliau Nawr ar Hwb.
Am ragor o wybodaeth a chymorth i ddefnyddio’r deunydd, cysylltwch â kat.watkins@disabilitywales.org
*Fideo newydd a fersiynau Hawdd ei Ddarllen Cymraeg a Saesneg i ddod yn fuan.
Ymweliadau a chanlyniadau
Mae’r gwaith wedi derbyn adborth cadarnhaol gydag ymarferwyr a dysgwyr yn dweud bood y hyfforddiant yn ddifyr a doniol. Mae’r prosiect wedi profi i wneud gwahaniaeth o ran hyder pobl i siarad am hawliau anabledd a’r Model Cymdeithasol o Anabledd.
Fel un enghraifft, arweiniodd ymweliad Kat ag Ysgol Gynradd Libanus yn y Coed Duon at ddysgwyr yn cael yr hyder a’r wybodaeth i ysgrifennu at Gyngor Caerffili am faterion mynediad. Gwych gweld y genhedlaeth nesaf yn sefyll dros gydraddoldeb anabledd!
Dywedodd Ysgol Tre Uchaf wrthym fod y trafodaethau a ddechreuwyd yn y gwasanaethau a’r gweithdai a gyflwynwyd gennym wedi cario ymlaen mewn gwersi eraill gyda dysgwyr yn datblygu syniadau gwych am sut y gall ysgolion a chymdeithas yn gyffredinol fod yn fwy cynhwysol i bobl anabl.