Partneriaeth yw Pŵer Cyfartal, Llais Cyfartal (PCLlC) rhwng Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod (RhCM) Cymru, Stonewall Cymru, Anabledd Cymru, a Thîm Cymorth Lleafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid (EYST) Cymru.
Wedi’i ei lansio yn 2021, rhaglen fentora ydyw sy’n ceisio cynyddu amrywiaeth cynrychiolaeth mewn bywyd cyhoeddus a gwleidyddol yng Nghymru. Mae’r prosiect wedi ei hariannu gan Gronfa Gymunedol Genedlaethol y Loteri a Llywodraeth Cymru.
Ledled Cymru, mae yna gyfalaf cymdeithasol a deallusol sydd heb ei gyffwrdd ac sydd wedi’i heithrio o’n systemau cyhoeddus a gwleidyddol. Mae hyn yn cynnwys pobl Ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, pobl o’r gymuned LHDT+, pobl anabl, menywod a phobl sy’n gyfuniad o’r nodweddion hyn.
Mae yna rai y gwelir eu bod wedi “gwneud hi” yn yr ystyr eu bod wedi cyrraedd y “brig” yn eu dewis faes neu mewn gwleidyddiaeth. Er hynny, thema gyffredin wrth siarad â llawer ohonynt yw ei bod yn daith anoddach nag y dylai fod, wedi cymryd mwy o amser a bod angen goresgyn llawer o rwystrau.
Nod y rhaglen Pŵer Cyfartal, Llais Cyfartal (PCLlC) yw helpu i bontio’r bwlch, cael mwy o gynrychiolaeth amrywiol ym mywyd gwleidyddol a chyhoeddus drwy gryfhau gwybodaeth a sgiliau’r rheiny sy’n dyheu am fod yno, gan ddysgu gan y bobl sydd wedi cyflawni safloeoedd o bŵer, dylanwad ac awdurdod yn wyneb yr heriau hyn, a chael eu cefnogi ganddynt.
Mae’r rhaglen yn adeiladu ar brofiad a llwyddiant rhaglenni mentora bywyd cyhoeddus blaenorol RhCM Cymru ac EYST Cymru a welodd y mentoreion yn ennill swyddi fel cynghorwyr ac Aelodau Senedd, cael eu penodi i fyrddau cyhoeddus a dod yn llywodraethwyr ysgol. Yn y pen draw, y nod yw gweithio ar y cyd i gynyddu cynrychiolaeth ar draws ein holl gymunedau amrywiol.
Ein gweledigaeth yw gweld cynrychiolaeth fwy amrywiol ar draws yr holl swyddi gwneud penderfyniadau cyhoeddus a gwleidyddol yng Nghymru gan gynnwys byrddau cyhoeddus (megis Cyngor Celfyddydau Cymru neu Chwaraeon Cymru), byrddau iechyd, swyddi etholedig yn y llywodraeth leol a’r DU neu Senedd Cymru, ymddiriedolwyr elusennau, llywodraethwyr ysgol ac fel actifyddion cymunedol.
I ddarganfod mwy am Pŵer Cyfartal, Llais Cyfartal ac i gymryd rhan, ewch i epev.cymru.