Dathlu 50 mlynedd o Anabledd Cymru – Y Cinio Pen-blwydd
Efallai ein bod wedi crybwyll, unwaith neu ddwy, fod Anabledd Cymru yn dathlu ei hanner canmlwyddiant eleni.
Doedden ni ddim yn gallu gadael i gyfle i nodi’r garreg filltir hon fynd heibio inni a dyna pam y gwnaethom ymgynnull yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar drothwy ein cynhadledd flynyddol i edrych yn ôl ar daith ein sefydliad hyd yma.
Roeddem yn falch i gael cwmni megis y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt AS, Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd, Mark Isherwood AS ac Uchel Siryf De Morgannwg, Rosaleen Moriarty-Simmonds, yn ogystal â chydweithwyr a ffrindiau o bob rhan o’r trydydd sector.
Dros bum degawd, mae Anabledd Cymru wedi bod ar flaen y gad o ran gweithredu hawliau anabledd, gan gynrychioli barn aelodau i’r llywodraeth, cydlynu ymgyrchoedd, a chefnogi Sefydliadau Pobl Anabl.
Wedi’i sefydlu yn 1972 fel Cyngor Cymru i’r Anabl, fe’i hailenwyd yn Anabledd Cymru ym 1994 i adlewyrchu newid mewn agweddau o fewn cymdeithas a dyheadau pobl anabl. Roedd yr Ymgyrch Hawliau Nawr dros ddeddfwriaeth hawliau sifil a chynhwysfawr yn ei hanterth, gyda chefnogaeth weithredol AC, ac a arweiniodd at gyflwyno Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd (1995).
Roedd y cinio yn gyfle i edrych yn ôl a hel atgofion am yr hyn y mae Anabledd Cymru wedi’i gyflawni wrth ymateb i’r newid yn y dirwedd gymdeithasol ac economaidd o ran pobl anabl, gan gynnwys:
- Agor Canolfan Cymhorthion ac Offer cyntaf Cymru ym 1978
- Trefniadaeth Cynllun Gwobrau Mynediad i Adeiladau 1979-91
- Cydlynu Gwasanaeth Symudol Cyngor a Gwybodaeth Anabledd ar draws Cymru – DAI y Bws, 1989 – 1997
- Cefnogi dros 2000 o ddarpar entrepreneuriaid anabl i archwilio hunangyflogaeth, gyda 400 ohonynt yn sefydlu eu busnesau eu hunain (2001 – 2007)
- Cyhoeddi’r Maniffesto ar gyfer Byw’n Annibynnol cyn Etholiadau Cynulliad Cymru 2011 a ddylanwadodd yn llwyddiannus ar gyflwyno’r Fframwaith Gweithredu ar Fyw’n Annibynnol (2013), y dull trawsbynciol cyntaf o fynd i’r afael â rhwystrau anablu mewn cymdeithas yng Nghymru
- Sefydlu’r Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig gyntaf yng Nghymru (2020) a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru a roddodd gymorth ariannol i fynd i’r afael â’r rhwystrau y mae pobl anabl yn eu hwynebu yn Etholiadau Senedd (2021) a Llywodraeth Leol (2022) yn y drefn honno
- Sicrhau Cefnogaeth Trawsbleidiol ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i alwad Dewch â’n Maniffesto Hawliau i ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl yng nghyfraith Cymru (2021)
Fel sefydliad aelodaeth, mae AC yn cydnabod bod ei gyflawniadau yn seiliedig ar ymroddiad ac ymrwymiad cenedlaethau olynol o ymgyrchwyr anabl a chynghreiriaid nad ydynt yn anabl.
Ategwyd y teimlad hwn mewn llu o areithiau drwy gydol y noson, gan ddechrau gyda Chadeirydd AC, Willow Holloway, a osododd y naws ar gyfer dathliad bendigedig.
Trosglwyddodd Willow y baton i Brif Weithredwr CGGC, Ruth Marks, a wnaeth fyfyrio ar y berthynas agos sydd wedi bod gan ein sefydliadau dros y blynyddoedd.
Cynhyrchwyd fideo i ategu thema gyffredinol ein Cynhadledd Flynyddol, Y Ffordd i Hawliau; mae’n daith wib o hanes AC a’r hyn a gyflawnwyd dros yr 50 mlynedd diwethaf. Cafodd gwesteion olwg ar y fideo yn y cinio, ond gallwch ei wylio’n llawn ar ein sianel YouTube:
Ategwyd pryd tri chwrs blasus gan drafodaethau bywiog wrth i westeion ailgysylltu a bondio dros ddiddordeb ac angerdd a rennir dros hawliau anabledd a chydraddoldeb.
Cafwyd anerchiad grymus gan Jane Hutt AS, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, am hawliau anabledd a’r rhan hanfodol y mae AC wedi’i chwarae wrth eu datblygu yng Nghymru.
Amlygodd araith y Gweinidog ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’r Model Cymdeithasol o Anabledd a chyfeiriodd at waith hanfodol y Tasglu Hawliau Anabledd a sefydlwyd i oruchwylio’r gwaith o ddatblygu cynllun gweithredu i ddileu effeithiau niweidiol pandemig Covid-19 ar bobl anabl. .
Coronodd ein Prif Weithredwr, Rhian Davies, y noson gyda’i hanerchiad ei hun lle bu’n ymateb i rai o’r pwyntiau a godwyd yn araith y Gweinidog cyn myfyrio ar y ffordd i hawliau, pa mor bell rydym wedi dod a beth sydd angen ei wneud o hyd.
Yna diolchodd i bawb am rannu eu noson gyda ni wrth i ni ddathlu 50 mlynedd o’n sefydliad.
Roeddem yn falch iawn o allu aduno gyda chydweithwyr a ffrindiau, hen a newydd, i nodi ein pen-blwydd. Roedd yr ystafell yn disgleirio wrth i bawb rannu atgofion a gwneud cysylltiadau newydd, ac roeddem yn falch o allu darparu llwyfan ar gyfer trafodaethau mor wych.