Datganiad i’r Wasg
Anabledd Cymru i lansio ‘Datgloi Bywyday’, ffilm sy’n cyfleu profiadau pobl anabl trwy wahanol donnau’r pandemig
Datgloi Bywydau yw’r prosiect fideo Anabledd Cymru a wnaed yn bosibl diolch i gyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol Cymru.
Yn darlledu am y tro cyntaf mewn digwyddiad ar-lein ddydd Gwener 17eg o Fedi am 6:30yh, bydd y ffilm yn cyflwyno gwylwyr i lu o brofiadau a straeon a rennir gan gyfranogwyr y prosiect trwy gydol y pandemig.
Roedd gosod man gwaith diogel ar-lein yn rhoi ciw i gyfranogwyr gynnig cofnod o’u bywyd a’u myfyfrdodau, gan ganiatáu i Anabledd Cymru ddal y materion preifat, bob dydd sy’n wynebu eu haelodau trwy wahanol donnau’r pandemig.
Mae’r adnoddau hygyrch i wneud fideos a ddarperir gan dîm Anabledd Cymru, ynghyd â chyflwyno geirfa sy’n benodol i’r diwydiant a phwyslais ar ‘ddiffinio’r dechnoleg’ ac ar annog ymrwymiad i allbwn, wedi meithrin y cyfle i adeiladu sgiliau newydd yn y grŵp, ac mae wedi helpu i greu cynnwys cymhellol a phwerus.
Mae hyn oll wedi cyfrannu at adeiladu ystorfa o gynnwys hunan-fynegiadol sydd wedi’i grefftio yn ddarn hyd nodwedd terfynol, a grëwyd gan Dogma Films.
Wrth siarad ar arwyddocâd ac effaith y prosiect cyn ei ddarllediad cyntaf, dywedodd Miranda Evans, Rheolwr Polisi a Rhaglenni Anabledd Cymru:
“Mae hwn wedi bod yn brosiect rhyfeddol yn dal bywyd bob dydd pobl anabl yn ystod pandemig Covid-19. Mae pob stori unigol yn unigryw ac yn rhoi mewnwelediad personol i uchafbwyntiau ac isafbwyntiau y cyfnod clo. Nid yw’r prosiect hwn yn adrodd materion a heriau ynysu cymdeithasol ac anabledd yn unig yn ystod Covid-19, mae hefyd yn taflu goleuni ar fyfyrio cymdeithasol yn y dyfodol ac yn ceisio creu ysgogiad ar gyfer newid cadarnhaol ac ymdrech i ddylanwadu ar lunio polisïau. Da iawn a diolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran!”
Mae pytiau o’r ffilm eisoes wedi’u rhannu gan Anabledd Cymru ar gyfryngau cymdeithasol gyda’r clipiau’n cyrraedd miloedd o bobl a’r trelar ei hun yn ennill ail-drydar gan yr actor, Michael Sheen.
Mae Datgloi Bywydau yn brosiect amserol sydd wedi rhoi cyfle i gyfranogwyr ledled Cymru i rannu eu stori ar adeg lle mae cymaint o bobl anabl wedi teimlo’n ddi-lais.
“Mae Datgloi Bywydau wedi fy ysbrydoli i godi llais a dweud wrth eraill sut mae bywyd fel person anabl,” meddai Nic sy’n ymddangos yn y ffilm.
“Mae angen cefnogaeth arnom, mae angen ein ffrindiau a’n teulu arnom, ac mae angen i bobl ein trin â pharch fel maent yn trin eraill. Nid ydym am gael ein cloi i ffwrdd, yn lle hynny rydym am gofleidio bywyd i’r eithaf!”
Gan gynnig mewnwelediadau i ystod amrywiol o brofiadau a chefndiroedd, mae’r ffilm yn addo bod yn drawiadol ond ar yr un pryd yn llawn cymeriad a llawenydd.
Bydd cyfranogwyr y prosiect nawr yn cael cyfle i barhau i rannu eu profiadau trwy ddogfennu eu straeon ar flog sy’n cael ei sefydlu gan dîm Anabledd Cymru.
I ategu’r llwyfan newydd, bydd y digwyddiad ar-lein hefyd yn cynnwys gweithdy byr ar ‘Sut i fod yn flogiwr’ gan Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol a Chyfathrebu Anabledd Cymru a’r flogwraig, Elin Williams.
Gall unrhyw un sy’n dymuno ymuno â’r digwyddiad a gwylio’r ‘premiere’ gofrestru trwy Eventbrite.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar Zoom rhwng 6:30-8yh ddydd Gwener 17 Medi.
Nodiadau i Olygyddion:
Am ragor o wybodaeth a chyfweliadau, cysylltwch â:
- Miranda Evans, Rheolwr Polisi a Rhaglen ar 029 2088 7325 / miranda.evans@disabilitywales.org