Rhannu eich gwybodaeth gyda ein haelodau
Yma yn Anabledd Cymru, rydym yn derbyn llawer o geisiadau i rannu gwybodaeth gyda’n haelodau ac rydym yn hapus i wneud hynny.
Ond yn aml, nid yw’r wybodaeth a roddir yn hygyrch ac nid yw’n cael ei ddarparu mewn fformat sy’n hawdd i ni ei atgynhyrchu ar y cyfryngau cymdeithasol.
Gyda hyn mewn golwg, hoffwn rannu ychydig o awgrymiadau, gan esbonio sut y gallwch chi ein helpu ni i’ch helpu chi i rannu gwybodaeth sy’n hygyrch i gynifer o bobl â phosib.
Gobeithio y bydd yn helpu!
- Rhowch erthygl neu bost i fyny ar eich gwefan neu dudalen Facebook fel y gallwn rannu dolen i’ch holl wybodaeth mewn un lle. Nid ydym yn ychwanegu gwybodaeth i’n gwefan ein hunain oni bai ei fod yn ymwneud yn uniongyrchol â’n gwaith neu ddigwyddiadau.
- Os ydych chi’n rhannu taflenni neu graffeg, efallai na fydd y wybodaeth destun arnynt yn hygyrch i bobl â nam golwg. Felly, mae’n bwysig sicrhau bod y wybodaeth hefyd ar gael ar ffurf testun yn unig (Plain Text) neu drwy erthygl blog. Ceisiwch osgoi meintiau ffeiliau mawr, os gwelwch yn dda.
- Sicrhewch bod fideos yn cael eu hisdeitlo a bod sain ar gyfer unrhyw destun sy’n ymddangos ar y sgrin yn unig. Ar gyfer sain yn unig, darparwch drawsgrifiad. Gellir ddod o hyd i ragor o wybodaeth am arfer da wrth gynhyrchu cynnwys clyweledol trwy’r dolenni canlynol:
Creu fideos YouTube hygyrch – Medium
Sut i wneud eich fideos yn hygyrch a chyrraedd cynulleidfa fwy – AbilityNet
- Mae angen ychwanegu disgrifiad ‘alt-text’ ar gynnwys gweledol fel graffeg neu llun i wneud y cynnwys hwn yn hygyrch i ddefnyddwyr darllenwyr sgrin. I gael mwy o wybodaeth ar sut i ychwanegu disgrifiadau delwedd ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol, gweler y dolenni canlynol.
Ychwanegu disgrifiadau delwedd ar Trydar
Sut i ychwanegu disgrifiadau delwedd ar Facebook
Disgrifiadau delwedd ar Instagram
Sut i ysgrifennu disgrifiad delwedd da, gan UX Collective
- Rhowch eich gwybodaeth mewn fersiynau Hawdd ei Ddeal (Easy Read). Gall Hawdd ei Ddeall fod o gymorth i lawer o aelodau sydd ag anawsterau dysgu. Fodd bynnag, mae angen fersiwn testun plaen ochr yn ochr â hwn o hyd ar gyfer y rhai sydd methu cyrchu ffeiliau PDF, sef beth mae Hawdd ei Ddeall yn tueddu i fod ynddo. Gallwch ddarganfod mwy am Hawdd ei Ddeall ar wefan Anabledd Dysgu Cymru.
- Er mwyn ein helpu i rannu ar gyfryngau cymdeithasol, gallwch ein tagio a / neu ddarparu darnau byr o wybodaeth sy’n barod ar gyfer Trydar ynghyd â dolen i ragor o wybodaeth ar eich gwefan neu’ch tudalen Facebook.
- Gwnewch yn glir â phwy y dylai ein haelodau gysylltu os hoffent gael mwy o wybodaeth neu ymateb i gais.
- Byddwch yn siwr i gynnwys eich tagiau cyfryngau cymdeithasol a’ch cyfeiriad gwefan fel ein bod ni’n gwybod ble i ddod o hyd i chi!
Gallwn ychwanegu gwybodaeth i’n cylchlythyr sy’n cael ei gyhoeddi bob yn ail fis os nad yw’r wybodaeth yn sensitif i amser, a byddwn hefyd yn anfon gwybodaeth yn uniongyrchol at ein haelodau os ydym yn teimlo y bydd o fudd iddynt
Os byddwch yn rhannu manylion am ddigwyddiadau, ceisiadau am wybodaeth neu astudiaethau achos, nodwch a ellir rannu rhain ar gyfryngau cymdeithasol ai peidio neu a ydych chi’n targedu cynulleidfa benodol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â sut y gallwch wneud eich gwybodaeth yn hygyrch neu os hoffech i ni ymhelaethu ar unrhyw bwyntiau yr ydym wedi’u gwneud yma, peidiwch ag oedi cyn cysylltu. Yn yr un modd, os oes gennych awgrymiadau eich hun i’w rhannu, anfonwch nhw draw a gallwn ddiweddaru’r erthygl hon gyda gwybodaeth ddefnyddiol wrth inni fynd ymlaen.